Neidio i'r prif gynnwy
Kathleen Withers

Amdanaf i

Mae Kathleen wedi gweithio yn y GIG am dros 20 o flynyddoedd, yn fwyaf diweddar fel Prif Wyddonydd Gwerthuso yn Cedar, Canolfan Ymchwil Technoleg Gofal Iechyd. Yn ystod ei chyfnod yn Cedar mae Kathleen wedi datblygu diddordeb penodol mewn cynnwys cleifion yn eu gofal ac mae wedi bod yn rhan yn natblygiad, dilysiad a defnydd PROMs ers 2010. Mae ganddi brofiad mewn ystod o brosiectau yn ymwneud ag economeg iechyd, gwerthuso gwasanaeth, adolygiadau systematig, hwyluso treialon clinigol a gwerthuso dyfeisiau meddygol. Mae Kathleen yn arwain tîm ymchwil a dadansoddi bach sy’n cefnogi dadansoddiad data a gesglir ar y Rhaglen Gofal Iechyd Seiliedig ar Werth a setiau data cysylltiedig. Mae hi hefyd yn hwyluso’r gwaith o nodi a thrwyddedu offer PROMs ar gyfer y rhaglen Genedlaethol a’r cyfieithiadau Cymraeg a’u dilysiad. Mae Kathleen yn mwynhau gwaith gyda chleifion a bydd yn cynnal cyfweliadau gyda chleifion a grwpiau ffocws yn rheolaidd ar gyfer dilysiad PROM, datblygiad gwasanaeth a gwerthusiadau. Mae’n awyddus i sicrhau bod allbynnau’r rhaglen yn cael eu cyrraedd mewn modd tryloyw, eu bod yn gadarn o ran methodoleg, yn gallu gwrthsefyll craffu ac yn cael eu rhannu’n briodol gyda’r gymuned gofal iechyd. Mae Cedar wedi arwain nifer o gyflwyniadau mewn cynadleddau a chyhoeddiadau ar ran y Rhaglen Gwerth mewn Iechyd ac mae wedi cael llwyddiant mewn digwyddiadau cenedlaethol yn cynnwys Gwobrau Cenedlaethol Rhwydwaith Profiad y Claf.