Neidio i'r prif gynnwy
Lawrence Humphreys

Amdanaf i

Ymunodd Lawrence â'r tîm yn ddiweddar fel Swyddog Cymorth Prosiect. Cyn hyn, roedd yn ymwneud â maes cymorth busnes gan ddarparu gwybodaeth a chyngor i Fusnesau Bach a Chanolig (BBaCh) ledled De Cymru. Mae Lawrence wedi cwblhau cwrs Sylfaen ac Ymarferydd Prince2 yn llwyddiannus ac mae'n bwriadu datblygu'r sgiliau hyn ymhellach yn ei rôl newydd. Yn ei amser hamdden mae Lawrence yn mwynhau chwarae a gwylio chwaraeon fel ei gilydd, yn enwedig pêl-droed a chriced, ac mae ganddo ddiddordeb brwd mewn cerddoriaeth hefyd a gall ganu'r piano a'r clarinet.