Neidio i'r prif gynnwy
Navjot Kalra

Amdanaf i

Mae Navjot yn arwain y Rhaglen Gofal Iechyd sy’n Seiliedig ar Werth ym Mwrdd Iechyd Prifysgol Bae Abertawe, sefydliad gofal iechyd integredig mawr yn GIG Cymru. Yn ogystal, mae’n ganddi rôl genedlaethol yn y rhaglen Gofal Iechyd sy’n Seiliedig ar Werth yn Gyfarwyddwr Cynorthwyol trawsnewid digidol. Mae’n arwain y gwaith o ddatblygu Fframwaith  Gwybodaeth Gwerth arloesol a fydd yn hysbysu mewnwelediadau'r dyfodol ar gyfer mentrau sy’n seiliedig ar werth ym meysydd gofal iechyd a gwyddorau bywyd. 
 Yn ystod gyrfa o dros 20 mlynedd, mae gan Navjot brofiad amrywiol a helaeth o dechnoleg, yn arbennig technoleg gwybodaeth seilwaith, gwybodaeth busnes, systemau gweithredu a thrawsnewid busnes gyda galluogwyr digidol. Mae ganddi brofiad helaeth o arwain rhaglenni trawsnewid busnes mawr byd-eang yn strategol gyda sefydliadau’r Top Fortune 500 cyn ymuno â Gwasanaeth Iechyd Gwladol (GIG) Cymru.  Mae’n arbenigwr mewn rheoli newid ac ail-lunio prosesau busnes. 
Mae gan Navjot radd mewn Gwyddorau Cyfrifiadurol ac mae wedi gweithio gyda sefydliadau’n cynnwys Hewlett Packard, Analog Devices (Maxim Integrated yn flaenorol) a Qlik Technologies lle roedd yn arwain y gwaith o ddatblygu a gweithredu gwasanaethau digidol argaeledd mawr, prosiectau trawsnewid digidol byd-eang cymhleth i wella cadwyn gyflenwi ac effeithlonrwydd cynhyrchu, gwella diogelwch a chanlyniadau i gleifion drwy ddefnyddio uwch ddadansoddeg (deallusrwydd artiffisial a dysgu peirianyddol). 
Mae ganddi MBA o Ysgol Fusnes Henley lle arweiniodd ei gwaith ymchwil am Ffactorau Llwyddiant Critigol mabwysiadu Gwybodaeth Busnes gyda 50 o ymddiriedolaethau’r GIG at greu papur gwyn i Qlik Technologies a chyhoeddiadau pellach.  Mae Navjot yn Ddarlithydd Anrhydeddus yn Ysgol Feddygaeth Prifysgol Abertawe ac yn aelod cyfetholedig o bwyllgor Archwilio a Sicrwydd Risg Prifysgol Abertawe.  Mae wedi arwain prosiectau ymchwil sylweddol gan ddefnyddio Data Mawr ar gyfer gwneud penderfyniadau gweithredol i wella effeithlonrwydd a chanlyniadau i gleifion.  Dewiswyd ei hymchwil arloesol ar lefel y boblogaeth gyda Phrifysgol Abertawe ynghylch atal strôc i’w gyflwyno yng Nghymdeithas Astudiaethau Poblogaeth Prydain.