Neidio i'r prif gynnwy
Samantha Harris

Amdanaf i

Ymunodd Sam â Chanolfan Gwerth mewn Iechyd Cymru ym mis Mawrth 2022. Cyn ymuno â’r tîm, bu Sam yn gweithio ym myd addysg, yn fwyaf diweddar o fewn consortiwm gwella ysgolion fel rheolwr prosiectau. Mae ganddi brofiad o reoli prosiectau ar lefel leol a chenedlaethol ac o brosiectau sy'n ymwneud â newid trawsnewidiol. Mae gan Sam ddiddordeb arbennig mewn datblygu dulliau sy’n canolbwyntio ar yr unigolyn at iechyd a llesiant ar gyfer pobl Cymru.