Neidio i'r prif gynnwy

Arolwg Cleifion - FAQs

Cliciwch ar y botymau i ddangos yr ateb

Mae'r arolwg hwn wir yn bwysig.  Mae'n ymwneud â chi ac am y GIG yng Nghymru. 

Rydyn ni’n deall yn iawn ei bod yn debygol y bydd gofyn i chi wneud llawer o arolygon.  Serch hynny, mae'r un hon yn wahanol. 

Er mwyn ceisio gwneud pethau’n well yn y GIG yng Nghymru, mae angen inni ddeall beth sy’n digwydd yn awr.  Mae angen inni ddeall sut beth yw pethau i bobl sy'n defnyddio gwasanaethau GIG Cymru. 

Dim ond drwy ofyn i bobl sy’n defnyddio gwasanaethau’r GIG y gallwn wneud hynny, a dyna lle rydych chi’n dod i’r adwy.

Bydd eich atebion mor bwysig i ni oherwydd byddwn yn cael gwell dealltwriaeth o anghenion iechyd a gofal poblogaeth Cymru. 

Byddwn yn defnyddio'r wybodaeth rydych chi’n ei rhoi i ni i weithio allan sut allwn ni wneud pethau'n well i chi, eich teulu a'ch cymuned. 

Mae'n golygu y bydd gennych chi lais pwysig yn beth sy’n digwydd yn y dyfodol.

Am yr un rhesymau ag uchod mewn gwirionedd.  Er mwyn gwneud pethau'n well, mae angen i ni ddeall sut beth yw pethau nawr.  I wneud hynny, mae angen i ni glywed gan bobl sy’n defnyddio gwasanaethau GIG Cymru, er enghraifft cael apwyntiad â meddyg teulu.

Dyna pam rydyn ni’n gofyn i chi gymryd rhan. 

Dydyn ni ddim yn gofyn i bawb yng Nghymru, gan ei bod yn bwysig i ni gael safbwynt cynrychioliadol a chytbwys.  Rydyn ni wedi gofyn i 201 o feddygfeydd yng Nghymru gymryd rhan, a gafodd eu samplu ar faint eu meddygfa a pha drefi, dinasoedd neu bentrefi y maen nhw’n eu gwasanaethu ac ati.  Rydych wedi’ch cofrestru yn un o’r meddygfeydd hynny, felly dyna pam rydym yn awyddus i glywed am eich profiadau.

Dyma’r arolwg cyntaf o’i fath yng Nghymru, ac er ein bod am ofyn i gynifer o bobl â phosibl, rydym hefyd am wneud yn siŵr ein bod yn cael barn gynrychioliadol o bob rhan o Gymru.

Fel yr eglurwyd uchod, rydych wedi cael eich dewis ar hap oherwydd eich bod dros 45 oed ac wedi’ch cofrestru gydag un o’r 201 o feddygfeydd sydd hefyd wedi’u gwahodd i gymryd rhan a chwblhau fersiwn meddygfa o’r arolwg hwn.

Rydyn ni’n bwriadu cynnal yr arolwg hwn eto ymhen ychydig flynyddoedd, a byddwn yn gofyn i grŵp newydd o feddygfa a phobl i gymryd rhan. Peidiwch â cholli'ch cyfle i fynegi’ch barn y tro hwn, oherwydd efallai na fyddwn yn gallu rhoi'r cyfle i chi eto.

Drwy wneud yr arolwg hwn, byddwch yn cael dweud eich dweud, ac yn cyfrannu at ddeall beth sydd ei angen i wneud newidiadau neu i ddarparu mwy o adnoddau.

Dylem ddweud dydy hyn ddim yn arolwg ar “beth yw eich barn am eich meddyg teulu”.  Mae’n ymwneud â’ch profiadau o ddefnyddio GIG Cymru, gyda ffocws penodol ar y gofal a gewch gan yr holl staff yn eich meddygfa. Bydd eich atebion yn ein helpu i ddysgu mwy am eich iechyd cyffredinol, ac ansawdd bywyd a sut mae'r gwasanaethau a ddarparwn yn diwallu eich anghenion.

Bydd y wybodaeth hon yn creu darlun i ni o sut beth yw bywyd i chi a chleifion ledled Cymru.  Mae hyn yn golygu y byddwn yn gallu nodi beth sydd ei angen i gael canlyniadau sy'n bwysig i chi.

Nid yn unig y byddwch chi yn elwa o gymryd rhan yn yr arolwg hwn, ond hefyd ein cleifion yn y dyfodol – eich plant, plant eich plant.

Byddwch yn rhan o wneud gwahaniaeth yn y blynyddoedd i ddod.

Dylai'r arolwg gymryd tua 25 munud i chi ei gwblhau. 

Mae hyn oherwydd ei fod yn arolwg rhyngwladol, a bydd cleifion yn yr holl wledydd sy'n cymryd rhan yn ateb yr un cwestiynau.  Bydd hyn yn ein helpu i ddeall sut rydym ni’n cymharu â gwledydd eraill ar draws y byd. 

Mae mwyafrif y cwestiynau yn rhai amlddewis, felly byddwch yn gallu dewis pa un sy'n berthnasol i chi fwyaf.

Nac oes. Mae'r arolwg yn cael ei gadw’n awtomatig wrth i chi fynd drwyddo felly os oes angen i chi gymryd seibiant a dod yn ôl ato rywbryd arall, gallwch chi wneud hynny.

Os gallwch chi ei gwblhau mewn un tro, yna mae hynny'n wych gan y bydd y cyfan yn cael ei orffen a'i wneud.  Yr unig beth y byddwn yn ei ofyn yw, os byddwch yn penderfynu gwneud yr arolwg, eich bod yn ei orffen, fel arall bydd yn cyfyngu ar ein gallu i ddefnyddio'ch atebion i'w llawn botensial.

Mae'r cwestiynau yn ymwneud â chi, felly dylech allu eu hateb. 

Fodd bynnag, efallai y byddwch yn penderfynu dydych chi ddim am ateb rhai cwestiynau penodol neu dydych chi ddim yn gyfforddus yn ateb rhai.

Gallwch chi hepgor unrhyw gwestiynau os byddwch chi ddim eisiau eu hateb.

Byddwch yn cael eich gofyn am eich iechyd cyffredinol ac ansawdd eich bywyd.

Rhai enghreifftiau fyddai cwestiynau am eich gweithgarwch corfforol dyddiol.  Sut brofiad yw hi i chi fynd i fyny ac i lawr y grisiau, sut ydych chi'n cario'ch siopa, neu pa mor aml ydych chi'n mynd allan am dro.

Cwestiynau eraill fyddai, sut ydych chi'n cysylltu â'ch meddyg teulu?  Ydych chi'n defnyddio eu gwefan?

Sut beth yw eich diet?  Pa mor hawdd fyddai hi i chi gael cymorth gan aelodau o'r teulu, cydweithwyr neu gymdogion?

Bydd gofyn i chi hefyd feddwl yn ôl i'ch apwyntiad diwethaf gyda'ch meddygfa ac ateb rhai cwestiynau am y math o gymorth sydd ei angen.

Felly mae'r cwestiynau'n eang ac yn eang eu cwmpas, ond fel y crybwyllwyd mewn atebion blaenorol, mae hyn er mwyn i ni allu cael eich mewnwelediadau a'ch profiadau gwerthfawr. 

Na, mae opsiynau eraill.  Os yn bosibl, byddai'n well gennym pe baech yn gwneud yr arolwg ar-lein.

Os nad yw hynny'n bosibl, gallwch ofyn am fersiwn papur o'r arolwg gan ddefnyddio'r cerdyn post rhagdaledig i ofyn am gopi papur neu wneud yr arolwg dros y ffôn drwy ffonio ein llinell gymorth am ddim ar 0800 151 0192.

Os byddwch yn gofyn am gopi papur, gwnewch yn siŵr eich bod yn dewis eich dewis iaith ar y cerdyn post a ddarparwyd i'n helpu i osgoi anfon fersiynau dwyieithog gan ei fod yn arolwg hir iawn.

Byddwch.  Disgwylir yr adroddiad i'r arolwg yn 2024.  Byddwn yn rhoi cyhoeddusrwydd manwl i'r canlyniadau, felly cadwch lygad ar ein gwefan a'n sianeli cyfryngau cymdeithasol.  Byddwn hefyd yn cyflwyno'r canlyniadau i bractisau meddygon teulu ac i Lywodraeth Cymru. 

Gall.  Mae'r arolwg ar gael mewn chwe iaith i gyd.  Maen nhw'n Gymraeg, Saesneg, Bengaleg, Wcreineg, Arabeg, a Phwyleg.

Fodd bynnag, dim ond y fersiynau Cymraeg a Saesneg sydd ar gael ar-lein ac ar bapur. Os ydych am lenwi un o'n pedair iaith leiafrifol, gweler y cerdyn sydd wedi'i gynnwys yn eich llythyr gwahodd am gyfarwyddiadau ar sut i gwblhau’r arolwg ar y ffôn am ddim.

Drwy gwblhau'r arolwg, mae'r wybodaeth rydych yn ei rhoi i ni yn mynd i ddau dîm gwahanol.

Yn gyntaf, bydd tîm yr arolwg rhyngwladol (OECD PaRIS) yn derbyn yr atebion ar gyfer y rhai sy'n bodloni eu meini prawf cymhwysedd - oedolion dros 45 oed, â chyflwr cronig sydd wedi gweld eu meddygon teulu yn y chwe mis diwethaf.  Os na fyddwch yn bodloni'r meini prawf hyn ni fydd eich gwybodaeth yn cael ei chynnwys yn y meincnod rhyngwladol hwn. Ni fydd unrhyw wybodaeth yn cael ei rhoi iddyn nhw a allai ddatgelu pwy ydych.  Byddan nhw’n defnyddio’r wybodaeth honno i lunio eu hadroddiad rhyngwladol lle byddwn yn gallu cymharu Cymru â 19 o wledydd eraill ledled y byd.

Yn ail, bydd holl wybodaeth yr ymatebwyr yn mynd i Iechyd a Gofal Digidol Cymru (DHCW).  Byddan nhw’n derbyn copi o'r holl wybodaeth ar ffurf adnabyddadwy.  Fodd bynnag, gallwn eich sicrhau mai dim ond at ddiben gwella systemau a gwasanaethau GIG Cymru ac ar gyfer polisïau'r GIG yn y dyfodol y caiff hwn ei ddefnyddio.

I gael rhagor o wybodaeth am sut y byddwn ni’n defnyddio eich data, cliciwch yma i edrych ar y polisi preifatrwydd.

Efallai y bydd rhai o'r atebion rydych yn eu rhoi yn cael eu defnyddio yn y prif adroddiad neu eu defnyddio i awgrymu newid, ond ni fydd neb yn gwybod mai chi sydd wedi'u dweud.  Ni fydd eich meddyg teulu yn gwybod beth rydych wedi'i ddweud ac ni fydd yn gweld unrhyw wybodaeth a allai ddatgelu pwy ydych.

Bydd DHCW yn cadw eich holl atebion am hyd at 10 mlynedd, ar ôl y cyfnod hwn byddan nhw’n dinistrio'r holl wybodaeth adnabyddadwy.

Os byddwch yn newid eich meddwl am gymryd rhan yn yr arolwg hwn ar unrhyw adeg o fewn y 10 mlynedd nesaf, gallwch anfon e-bost at DHCW.InformationGovernance@wales.nhs.uk a gofyn i’ch atebion gael eu dinistrio. Bydd DHCW yn gwneud hynny yn unol â’u gofyniad cyfreithiol o dan GDPR.

Gallwch ddysgu mwy am eich hawliau preifatrwydd yn ein hysbysiad preifatrwydd y gallwch ei gyrchu trwy glicio yma.

O bosib.  Mae rhan o'r arolwg i'r feddygfa ei hateb. 

Gofynnom i 201 o feddygfeydd gymryd rhan, cawsant eu samplu o bob meddygfa  yng Nghymru.  Roedd hyn er mwyn sicrhau bod gyda ni amrywiaeth gyfartal o arferion yn seiliedig ar faint a daearyddiaeth.  Byddai eich meddygfa wedi bod yn un o'r 201 ac efallai wedi cymryd rhan.

Cymru yw'r unig wlad yn y Deyrnas Unedig sy'n cymryd rhan yn y darn hwn o waith. 

Byddwn ni’n gallu meincnodi ein hunain yn erbyn 19 o wledydd eraill ledled y byd.  Sut mae gwledydd eraill yn helpu eu cleifion?  Oes unrhyw beth y gallwn ei ddysgu ganddyn nhw? Mae hwn yn gyfle gwych i Gymru ddysgu am y gofal a ddarparwn a helpu i lywio barn well yn rhyngwladol ar y ffordd orau o ofalu am bobl â chyflwr cronig sy’n cael eu rheoli gan feddygfeydd.

Os na allwch ddod o hyd i'r ateb i'ch cwestiwn neu os oes angen rhagor o help arnoch, anfonwch e-bost atom yn UK-PA-Wales-PaRIS-Survey@ipsos.com neu ffoniwch 0800 151 0192 a byddwn yn fwy na pharod i helpu.

Enw’r arolwg hwn yn rhyngwladol yw Arolwg Rhyngwladol PaRIS yr OECD. 

Enw’r arolwg yw Arolwg Poblogaeth 2023.

OECD yw’r Sefydliad ar gyfer Cydweithrediad a Datblygiad Economaidd.

Ystyr PaRIS yw'r Arolwg o Ddangosyddion a Adroddir gan Gleifion.

Ar gyfer Cymru, mae Canolfan Gwerth mewn Iechyd Cymru yn cydlynu'r arolwg ar ran Llywodraeth Cymru a GIG Cymru.

Gallwch chi gael rhagor o wybodaeth am yr OECD – ei waith – a gwaith PaRIS yma:  Arolygon o Ddangosyddion a Adroddir gan Gleifion (PaRIS) - OECD