Neidio i'r prif gynnwy

Beth fyddwch chi'n ei ofyn i'n cleifion?

Bydd cleifion yn cael eu holi am eu hiechyd cyffredinol ac ansawdd eu bywyd.

Dyma rai enghreifftiau o’r cwestiynau:

  • I ba raddau rydych chi'n gallu cyflawni eich gweithgareddau corfforol bob dydd fel cerdded, dringo grisiau, cario siopa, neu symud cadair?
  • Oes un gweithiwr proffesiynol rydych chi’n mynd ato fel arfer ar gyfer y rhan fwyaf o'ch problemau iechyd?
  • Pa mor aml rydych chi'n bwyta ffrwythau, heb gynnwys sudd wedi'i wasgu o ffrwythau ffres neu wedi'i wneud o sudd crynodedig?
  • Faint o wahanol feddyginiaethau sydd wedi’u rhagnodi gan feddyg neu nyrs rydych chi'n eu cymryd yn rheolaidd neu'n barhaus?
  • Pa mor hawdd yw hi i chi ddefnyddio gwefan eich meddygfa i chwilio am wybodaeth neu gael mynediad at wasanaethau?
  • Os bydd angen help arnoch chi, pa mor hawdd yw hi i chi gael help gan y bobl ganlynol?  Aelod agos o'r teulu (gan gynnwys eich partner) neu ffrindiau, cymdogion a chydweithwyr?
  • Ydych chi erioed wedi ysmygu cynhyrchion tybaco (ac eithrio sigaréts electronig neu ddyfeisiau electronig tebyg) bob dydd, neu bron bob dydd, am flwyddyn o leiaf?

Fel y gwelwch chi, mae cwmpas y cwestiynau’n eang a gallwch chi ddechrau gweld y data a'r mewnwelediadau amhrisiadwy y byddwn ni’n eu cael o'r adroddiad terfynol.  Felly hefyd y math o wybodaeth y byddwch chi’n gallu ei defnyddio yn eich meddygfa eich hun.

Fel y soniwyd drwy gydol y cwestiynau cyffredin hyn, nid arolwg “beth yw eich barn am eich meddygfa” yw hwn ac ni fydd yn cael ei ddefnyddio i feirniadu meddygon teulu na staff meddygfeydd.

Os hoffech chi weld fersiwn o holiadur y claf, cysylltwch â ni a byddwn ni’n gallu rhannu copi gyda chi. Anfonwch e-bost i’n tîm yn ViH@wales.nhs.uk