Neidio i'r prif gynnwy

Fel meddygfa, sut byddwn ni'n cael budd o gymryd rhan?

Mae’n wir mai’r arolwg hwn yw’r cyntaf o’i fath a thrwy gymryd rhan byddwch chi’n ychwanegu eich llais at ddata a chanfyddiadau’r adroddiad a fydd yn cael ei gyflwyno i Lywodraeth Cymru.  Unwaith eto, mae’n dod yn ôl at ddealltwriaeth o’r hyn sydd ei angen yn y system i ysgogi newid a chyfeirio adnoddau i ddiwallu eich anghenion chi ac anghenion ein cymunedau. Mae hynny'n fudd.  

Bydd eich cleifion yn teimlo eu bod wedi cyfrannu at wella eu gofal iechyd, ond hefyd at ofal iechyd eu hanwyliaid yn y dyfodol.

Yn olaf, bydd canfyddiadau'r arolwg yn cael eu cyhoeddi yn gynnar y flwyddyn nesaf ac, fel rhan o hynny, byddwn ni’n rhoi gwybodaeth i'ch meddygfa am eich cleifion.