Cymru yw'r unig wlad yn y Deyrnas Unedig sy'n cymryd rhan yn y darn hwn o waith. Byddwn ni’n gallu meincnodi ein hunain yn erbyn 19 o wledydd eraill o bedwar ban byd. Unwaith eto, mae hynny'n golygu y byddwn ni’n gallu edrych ar sut mae gwahanol systemau gofal a galluogwyr yn effeithio ar ganlyniadau cleifion. Bydd hyn yn helpu ein llunwyr polisi i ddatblygu’r agenda trawsnewid yn seiliedig ar dystiolaeth a dealltwriaeth ddyfnach o ganlyniadau ac anghenion ein cleifion.