Mae’r arolwg hwn yn bwysig gan y bydd yn rhoi tystiolaeth i ni o’r pwysau y mae meddygfeydd yn eu hwynebu ar hyn o bryd ac unrhyw anghenion sydd heb eu diwallu yn ein cymunedau.
Dyma’r astudiaeth gyntaf o’i bath am bobl sy’n byw gyda chyflyrau cronig ac, o ganlyniad, mae hynny’n golygu am y tro cyntaf y bydd yn caniatáu i ni weld beth sydd ei angen yn y system.
Rydyn ni’n deall y pwysau sydd ar feddygfeydd, ond bydd y data hyn yn dangos y sefyllfa sydd ohoni yn seiliedig ar dystiolaeth. Bydd yn helpu llunwyr polisi i ddeall yn well sut, a ble, y gellir gwella systemau iechyd. Dyna pam rydyn ni’n gofyn i chi gymryd rhan.