Er mwyn sicrhau bod yr arolwg yn gynrychioliadol, rydyn ni wedi cynnal gwaith samplu ar yr holl feddygfeydd yng Nghymru, yn seiliedig ar ffactorau fel faint o gleifion sydd gan bob meddygfa, yr ardal a gwmpesir gan y feddygfa ac ati.
Mae eich meddygfa wedi cael ei nodi drwy’r strategaeth samplu gymesur hon, a dyna pam rydyn ni’n gofyn i chi gymryd rhan.
Mae hefyd yn golygu, trwy gwblhau’r arolwg, y byddwn ni’n gallu gwahodd sampl o'ch cleifion dros 45 oed i gymryd rhan.