Neidio i'r prif gynnwy

Sut bydd ein cleifion yn cael budd o gymryd rhan?

Mae'r buddion i gleifion yn debyg i’r rhai i chi fel meddygfa.  Mae llais eich cleifion yn cael ei glywed, maen nhw’n cael y cyfle i ddweud wrthym sut beth yw byw gyda chyflwr cronig. 

Rydyn ni’n cael gweld y data hynny o bob rhan o Gymru a chreu darlun o sut beth yw bywyd i’ch cleifion, gan ein galluogi i nodi’r hyn sydd ei angen i sicrhau’r canlyniadau gorau posibl iddyn nhw.  Bydd llunwyr polisi yn Llywodraeth Cymru yn defnyddio’r adroddiad i benderfynu sut i fwrw ymlaen gydag unrhyw argymhellion.

Mae’r cleifion yn gwneud gwahaniaeth drwy gyfrannu at ein dealltwriaeth o'r hyn sydd ei angen i ysgogi newid a chyfeirio adnoddau er mwyn cael yr effaith fwyaf posibl. 

Yn ogystal â’r budd y bydd y cleifion eu hunain yn ei gael o'r adroddiad terfynol hwn, bydd hefyd o fudd i’ch 'cleifion yn y dyfodol' – plant eich cleifion presennol a'u plant nhw. 

Byddan nhw wir yn cyfrannu at wneud gwahaniaeth am flynyddoedd i ddod.