Neidio i'r prif gynnwy

Beth yw Gofal Iechyd Seiliedig ar Werth?

 

Nod GIG Cymru yw cael y canlyniadau gorau posibl i gleifion gyda’r adnoddau sydd gennym. Er mwyn cyflawni hyn rydym yn gweithio gyda chleifion a chlinigwyr i gael gwell dealltwriaeth o’r gwerth rydym yn ei gael. Rydym yn edrych ar werth o safbwynt y claf, gan weithio i gyflawni’r hyn sy’n bwysig i’r bobl sy’n defnyddio ein gwasanaethau.

Yn ymarferol, mae hyn yn golygu diffinio’r canlyniadau rydym am eu cael - yn ôl yr hyn sy’n bwysig i gleifion - a chasglu Mesurau Canlyniadau a Adroddir gan Gleifion (PROMs). Er mwyn cyflawni hyn mae GIG Cymru yn canolbwyntio ar wneud penderfyniadau a ysgogir gan ddata: rydym yn casglu data PROMs ac yn ei ddefnyddio i wneud gwasanaethau’n well ac yn fwy effeithlon.

 

Ar ddechrau pandemig COVID-19 gwnaethom gydnabod bod risg uchel i gleifion methiant y galon pe byddai’n rhaid iddynt fynd i’r ysbyty ac yn dod i gysylltiad â’r firws. Gwnaethom sefydlu Hwb Methiant y Galon, gyda’r nod o gynnig gwasanaeth ymateb ar gyfer cleifion oedd â’r risg uchaf o orfod mynd i’r ysbyty.

Roedd tair prif elfen i’r Hwb Methiant y Galon:

Clinig mynediad cyflym gydag adolygiad ac ymchwiliad arbenigol ar gyfer claf yr oedd amheuaeth o fod yn dioddef o fethiant y galon

Gwasanaeth nyrsio arbenigol methiant y galon cymunedol ymatebol yn cynnig gofal i’r cleifion cywir ar yr adeg gywir

Llinellau cymorth ar gyfer cleifion a gweithwyr proffesiynol er mwyn cael atgyfeiriad cyflym a chyngor arbenigol

Mae data PROM, a gasglwyd cyn ac wedi sefydlu’r Hwb Methiant y Galon, wedi dangos gwelliant mewn iechyd a lles cleifion gyda gofal yn cael ei ddarparu gan y model Hwb; gan roi tystiolaeth gyfoethog i barhau gyda’r gwasanaeth hwn.

 

Dr Carey Edwards

Cardiolegydd Ymgynghorol, Ysbyty Treforys

Bwrdd Iechyd Prifysgol Bae Abertawe

 

Drwy wella ein dealltwriaeth o sut rydym yn defnyddio adnoddau, nod GIG Cymru yw:

  • Gweithredu clinigau’n fwy effeithlon, gan wneud gwell defnydd o amser cleifion a chlinigwyr
  • Nodi a mynd i’r afael ag anghenion clinigol ac ansawdd bywyd sy’n bwysig i gleifion unigol
  • Rhoi mewnwelediadau i gleifion ynglŷn â chanlyniadau tebygol dewisiadau triniaeth sydd ar gael
  • Defnyddio setiau data mawr at ddibenion ymchwil er mwyn dysgu am gyflyrau meddygol, pa mor dda mae triniaethau’n gweithio, a sut y gallwn wella ymhellach ein gwasanaethau
  • Buddsoddi mewn gwasanaethau ac ymyriadau sy’n rhoi gwerth; anwybyddu arferion gwerth isel; a lleihau amrywiad direswm mewn gofal

Mae Gofal Iechyd Seiliedig ar Werth yn ein hannog i ganolbwyntio ar ddiwallu anghenion a dymuniadau ein cleifion drwy eu cynnwys mewn gwneud penderfyniadau, gyda chefnogaeth y dystiolaeth orau sydd ar gael. Er mwyn gwella canlyniadau a phrofiadau cleifion o ofal iechyd, rydym yn gweithio i wella ein systemau cyfathrebu a chofleidio technoleg ddigidol.

Pam fod Gofal Iechyd Seiliedig ar Werth yn iawn i Gymru?

Mae ein poblogaeth yn newid. Mae pobl yng Nghymru yn mynd yn hŷn ac yn byw’n hwy, ac mae rhai yn datblygu anghenion iechyd cymhleth. Rhaid i’n gwasanaethau addasu i anghenion y boblogaeth er mwyn sicrhau cynaliadwyedd iechyd a gofal cymdeithasol. 

Mae Cymru wedi ymrwymo i fuddsoddi er mwyn diwallu’r anghenion hynny mor effeithlon â phosibl. Mae hyn yn golygu newid sut rydym yn gweithio a bod yn graff gyda’r adnoddau sydd gennym. Mae’n golygu datblygu dulliau newydd ac wedi'u personoleiddio ar gyfer darparu gofal ar yr amser cywir, i’r bobl gywir, yn y mannau cywir.

‘Rydym eisiau gwybod beth sy’n bwysig i bobl. Rydym yn gofyn pa driniaethau a gofal sy’n cadw pobl yn iach; pa ymyriadau sy’n effeithio ar ansawdd eu bywyd mewn ffyrdd y maent yn eu gwerthfawrogi.

Drwy lenwi holiaduron am eu hiechyd a’u lles, mae cleifion yn ein helpu i ddysgu beth yw’r ffordd orau i ddarparu gofal sy’n gwella eu bywydau mewn ffyrdd ystyrlon.’

Dr Sally Lewis, Cyfarwyddwr Clinigol Cenedlaethol ar gyfer Gofal Iechyd Seiliedig ar Werth

Gan adeiladu ar egwyddorion Gofal Iechyd Darbodus, mae GIG Cymru yn cofleidio Gofal Iechyd Seiliedig ar Werth. Mae hyn yn cyd-fynd ag uchelgais Cymru Iachach - cynllun hirdymor y llywodraeth ar gyfer ein hiechyd a gwasanaethau cymdeithasol. Mae ein Cynllun Gweithredu Cenedlaethol ar gyfer Gofal Iechyd Seiliedig ar Werth, a gyhoeddwyd yn nhymor yr hydref 2019, yn nodi map ffordd ar gyfer gwireddu ein gweledigaeth o ofal a ysgogir gan ddata.

Rydym yn gweithio gyda sefydliadau rhyngwladol, yn cynnwys OECD ac ICHOM, i ddefnyddio’r technolegau a’r ddealltwriaeth ddiweddaraf wrth i ni ail-ddychmygu ein system iechyd gyda’n gilydd. Yn y broses hon mae Cymru’n dechrau cael ei chydnabod fel arweinydd byd-eang ym maes Gofal Iechyd Seiliedig ar Werth ac yn datblygu’r ddealltwriaeth a’r offer gwybodaeth sydd fwyaf addas i’n poblogaeth.

 

Sut fydd Gofal Iechyd Seiliedig ar Werth yn cynorthwyo Cymru i gael gwell gwerth?

Dydyn ni ddim yn gwybod digon am sut y mae’r gwasanaethau yr ydym yn eu darparu yn cyfrannu at y canlyniadau gorau i gleifion. Er mwyn canfod mwy, mae holiaduron wedi’u cynllunio’n ofalus i ddysgu am fesurau canlyniadau a adroddir gan gleifion (PROMs).

Mae’r asesiadau’n defnyddio arbenigeddau rhyngwladol a datblygir arolygon gyda chleifion a chlinigwyr ym mhob maes therapiwtig. Gofynnir i gleifion yng Nghymru ateb cwestiynau a ddewiswyd gan ein timau clinigol. Bydd hyn yn dylanwadu ar eu gofal uniongyrchol a hefyd yn datgelu beth sy’n gweithio orau i bobl sydd â’r un cyflwr â hwy. Wrth i ni ddysgu mwy am y mathau o ofal sy’n rhoi’r gwerth gorau, gallwn wneud llai o’r pethau sydd ddim yn helpu ac ail-fuddsoddi’r arian hwnnw i wneud mwy o’r hyn sy’n gweithio. Ein nod yw gwella ein gallu i ddiwallu anghenion cleifion nawr ac yn y dyfodol.

Sut mae hyn yn gwella canlyniadau a phrofiadau cleifion?

Mae cael mynediad at ddata am yr hyn sy’n gweithio orau yn grymuso cleifion a chlinigwyr i wneud penderfyniadau ar sail gwybodaeth. Wrth greu systemau i gasglu a dadansoddi’r wybodaeth hon, mae GIG Cymru wedi buddsoddi mewn technolegau sy’n gwella’n fawr y cyfathrebu gyda chleifion. Drwy ddefnyddio ffonau clyfar a dyfeisiau llechen gall cleifion gyfathrebu o bell gyda thimau clinigol ynglŷn â’u hiechyd. Rhydd hyn gyfleoedd i gyrchu gofal yn gyflym os bydd angen. Mae hefyd yn arbed amser, anghyfleuster a chost cysylltiedig â theithio i apwyntiadau clinig diangen ar gyfer cleifion.

Rhagor o wybodaeth

Beth mae’n ei olygu i glinigwyr?

Gall ein timau clinigol adolygu PROMs cyn bod y claf yn dod i’r clinig, gan gynorthwyo i wneud apwyntiadau yn fwy effeithlon ac i nodi meysydd sydd angen sylw. Mae ein harbenigwyr data yn gweithio gyda thimau clinigol i greu dangosfyrddau data sy’n cynorthwyo ein staff llinell flaen prysur i ddelweddu data PROMs allweddol ar gyfer cleifion unigol.

Gellir defnyddio data PROMs fel offeryn brysbennu a gall gynorthwyo i flaenoriaethu’r cleifion sydd â’r angen mwyaf, gan helpu i wneud y defnydd gorau o amser y clinig. Mae hyn yn caniatáu i achosion brys gael eu nodi a’u rhoi ar lwybr carlam, tra'n ysgafnhau’r pwysau ar wasanaethau drwy leihau apwyntiadau dilyn i fyny wyneb yn wyneb diangen.

Gyda’r data am anghenion gwasanaeth a gwerth ymyriadau sydd ar gael, gall clinigwyr fireinio sut y maent yn darparu gofal a chreu achos busnes dros fuddsoddiad lle bo angen.

Rhagor o wybodaeth

Beth yw PROMs?

Holiaduron yw Mesurau Canlyniadau a Adroddir gan Gleifion (PROMs) sydd wedi’u cynllunio a’u profi gyda chleifion a chlinigwyr ar gyfer naill ai clefydau penodol neu ar gyfer eich iechyd yn gyffredinol neu ansawdd bywyd. Maent yn chwilio am newidiadau yn iechyd pobl cyn ac wedi triniaeth a/neu dros amser i ddeall newidiadau mewn ansawdd bywyd pobl. Maent yn holiaduron sydd wedi’u dilysu, fel arfer yn benodol i gyflwr, a ddatblygwyd gan academyddion ymchwil yn dilyn gwaith ymchwil trylwyr.

Mae’r ddelwedd yn dangos enghraifft o un math o offer PROM o’r enw EQ5D. Enghraifft o’r holiadur iechyd cyffredinol/ansawdd bywyd EQ5D 5L.

Noder mai dim ond yn Saesneg y mae'r ddelwedd uchod ar gael

Fel arfer mae cwestiynau PROMs yn rhai amlddewis ac mae gan y rhan fwyaf o holiaduron system sgorio sy’n trosi atebion yn un sgôr. Gall pob PROM gynnwys nifer gwahanol o gwestiynau, a system sgorio wahanol, gydag atebion i wahanol gwestiynau yn cael eu pwysoli yn ôl eu pwysigrwydd.  

 

Gofal Iechyd Seiliedig ar Werth yn GIG Cymru: Cerrig milltir allweddol

  • 2013: Comisiwn Bevan yn cyhoeddi Gofal Iechyd Darbodus
  • 2014: Lansio polisi Gofal Iechyd Darbodus
  • 2015: BIP AB yn mynd ati i greu strategaeth Gofal Iechyd Seiliedig ar Werth
  • 2016: BIP AB yn cynyddu’r gwaith o gasglu PROMs
  • 2018: Penodi Dr Sally Lewis yn Gyfarwyddwr Clinigol Cenedlaethol ar gyfer Gofal Iechyd Seiliedig ar Werth
  • 2018: Dangosfyrddau data’n cael eu creu ar gyfer canser yr ysgyfaint a methiant y galon
  • 2019: Llywodraeth Cymru’n cyhoeddi Cymru Iachach
  • 2019: Lansio Cynllun Gweithredu Cenedlaethol ar gyfer Gofal Iechyd Seiliedig ar Werth (2019-2022)
  • 2020: Cefnogaeth adfer wedi COVID a chreu Strategaeth Cyfathrebu, yn cynnwys ail-frandio a lansio ein Rhaglen Gwerth mewn Iechyd