Neidio i'r prif gynnwy

Grŵp Dadansoddi Uwch Cymru

Mae’r ddelwedd yn dangos y gair dadansoddeg wedi’i sillafu un llythyren ar y tro.

Cefndir

Mae’r grŵp yn cynnwys dros 30 o weithwyr proffesiynol arweiniol gwyddor data a gwybodeg, gan gynnwys cynrychiolwyr o NWIS (Gwasanaeth Gwybodeg GIG Cymru), Llywodraeth Cymru, ONS (y Swyddfa Ystadegau Gwladol), Byrddau Iechyd ac awdurdodau lleol.

Sefydlwyd y Grŵp, sy’n cael ei gydgysylltu gan Ecosystem Iechyd Digidol Cymru (EIDC) a’r tîm Adnoddau Data Cenedlaethol, i gefnogi a gyrru cynnydd ar draws ecosystem iechyd digidol Cymru, gyda’r nod o gyfarfod y blaenoriaethau strategol a osodwyd yn Natganiad o Fwriad Llywodraeth Cymru: Defnyddio data iechyd a gofal yn well er mwyn darparu gofal diogel ac effeithiol a gwasanaethau effeithlon..

Mae’r nod hwn o hybu system iechyd a gofal sydd wedi’i yrru yn fwy gan ddata, gan ganolbwyntio ar wella casglu ac ansawdd data, gwella sgiliau ac adnoddau, datblygu datrysiadau digidol i gefnogi gweithredu a rheoli, a datblygu fframwaith ar gyfer trefnu, defnyddio a rhannau data. Crëwyd y Grŵp Dadansoddeg Uwch fel rhan o raglen waith yr Adnodd Data Cenedlaethol i gyflawni’r nodau hyn.

Nod y Grŵp  

Nod y Grŵp yw symleiddio, trefnu ac ail-ffocysu blaenoriaethau i wella effeithlonrwydd ar draws ecosystem iechyd a gofal Cymru. Gyda nifer o randdeiliaid yn rhan o’r sector gofal iechyd ar draws Cymru – Llywodraeth Cymru, NWIS, clinigwyr, darparwyr gofal cymdeithasol, ysbytai, clystyrau meddygon teulu a mwy – gall cyfathrebu rhwng y grwpiau hyn droi’n gymhleth yn gyflym.

Mae trawsffurfiad cyflwyno iechyd a gofal trwy dechnoleg ddigidol yn dibynnu ar symiau cynyddol o ddata a dadansoddi. Mae dadansoddwyr a thimau ar draws iechyd a gofal wedi bod yn datblygu ffyrdd cyffrous ac arloesol o wella rhannu data, cefnogi clinigwyr a gweithwyr gofal proffesiynol a gwella canlyniadau cleifion ac adnabuwyd bod rhannu prosiectau, profiad ac arfer orau yn flaenoriaeth.

Ochr yn ochr â hyn mae bwlch cynyddol rhwng clinigwyr a’r bobl hynny sydd mewn swyddi sy’n dod wyneb yn wyneb â cleifion, a’r gymuned gwyddor data - y ddau grŵp yn ddibynnol ar ddata iechyd a gofal ond gallent gyfathrebu yn fwy effeithiol er mwyn gweithredu hyn yn llawn.

Ac felly, nod y Grŵp yw darparu ffocws strategol a thechnegol i bontio’r bwlch a chefnogi rhanddeiliaid i fod yn fwy trefnus, cydgysylltiol ac effeithlon yn y ffordd y maen nhw’n gweithio. Mae’r Grŵp yn gweithio i sicrhau fod gan sector iechyd a gofal Cymru yr arbenigwyr cywir yn edrych ar y problemau cywir, a sicrhau eu bod yn ymdrin â’r problemau cywir yn defnyddio’r adnoddau cywir.

Problemau

Un o’r prif broblemau a adnabuwyd gan y rheiny sy’n ymwneud â nhw oedd y diffyg trefn a chydgysylltu ymysg ecosystem dadansoddeg iechyd a gofal Cymru.

Dywedodd Dave Pearton (Uwch Ddadansoddydd Busnes yn NWIS):

“Mae nifer o sefydliadau, grwpiau rheoli, unigolion a thimau, a’r byrddau iechyd rhanbarthol a’r ysbytai yn rhan o hyn. Pan edrychwch ar sut maent yn rhyngweithio, mae yna wahanol dimau sy’n estyn allan i’r gwahanol sefydliadau ac mae’n mynd yn gymhleth.

“Mae diffyg blaenoriaethu, efallai yr aiff ceisiadau i’r tîm fel blaenoriaeth, ond oherwydd eu bod wedi bod trwy broses o flaenoriaethu nid oes unrhyw ffordd o benderfynu hynny.

“Gallai’r adnodd hwnnw fod yn edrych ar rywbeth pwysicach. Mae’r Grŵp yn caniatáu i chi gymryd golwg gyfannol a symleiddio’r broses i’r bobl berthnasol.”

Hefyd adnabu Cadeirydd y Grŵp, Dr Sally Lewis (Arweinydd Clinigol Cenedlaethol ar gyfer Gofal Iechyd Darbodus a Seiliedig ar Werth ym Mwrdd Iechyd Prifysgol Aneurin Bevan) ddiffyg cyfathrebu rhwng gweithwyr proffesiynol y gwasanaeth iechyd a’r gymuned gwyddor data fel problem fawr.

Dywedodd:

“Roedd ychydig o ddatgysylltiad rhwng y gymuned gwyddor data a gweithwyr proffesiynol y gwasanaeth iechyd sydd angen bod yn gofyn cwestiynau o’r data. Golygai hynny bod rhwystredigaeth ar y ddwy ochr.

“Mae’r gweithwyr gwasanaeth iechyd angen y wybodaeth er mwyn gwneud penderfyniadau, ond nid ydynt yn gwybod i bwy i ofyn, na sut i ofyn y cwestiwn.

“Ar yr ochr arall, mae gennym gymuned gwyddor data dalentog sy’n eiddgar i dderbyn y cwestiynau, ond nad oes ganddynt y cysylltiad hwnnw.

“Adnabuwyd yr angen i adeiladu pont rhwng y cymunedau hynny a chreu iaith gyffredin, fel y gallem ofyn y cwestiynau cywir i’r gymuned gwyddor data, a chynhyrchu gwybodaeth fel bod posibl cael proses gwneud penderfyniadau sydd wirioneddol wedi’i gyrru gan ddata.”

Dywedodd:

“Canslwyd llawer o wasanaethau o ganlyniad i Covid - gwelodd ton y pandemig lawer o bobl yn cael eu disodli, a gohiriwyd llawdriniaethau oedd wedi’u cynllunio. Oherwydd coronafeirws rydym wedi cau gwasanaethau a rŵan rydym angen dechrau eu hagor unwaith eto.

“Felly, yr her yw sut i’w hagor eto, pa rai rydym am eu hail-gychwyn, a pha wasanaethau ydyn ni’n eu hagor gyntaf.

“Yn anochel mae hyn wedi bod yn cael effaith ar gynllunio gwasanaethau a blaenoriaethu adnoddau wrth i ni ailddechrau rhyw fath o normalrwydd.”

Cynnydd

Blaenoriaeth gyntaf y grŵp yw creu catalog o arloesedd data iechyd a gofal ar draws Cymru, gan gynnwys dadansoddeg uwch, gwyddor data, dysgu peirianyddol, deallusrwydd artiffisial a data mawr.  

Pan fydd hyn wedi’i greu bydd y grŵp wedyn yn archwilio’r blaenoriaethau a gweld sut y gellir cefnogi’r rhain i sicrhau bod adnoddau ac arbenigedd yn cael eu dyrannu’n gywir. Gall y blaenoriaethau hyn hefyd arwain y dechnoleg, gwerthoedd ac isadeiledd sydd eu hangen i weithredu deallusrwydd artiffisial a gwyddor data mewn ffordd gyson ac y gellir ei ehangu’n gyflym, ac mae’r Grŵp yn bwriadu edrych ar hyn.

Gwnaeth Sally sylw ar hyn gan ddweud:

“Ein tasg gychwynnol yw catalogio unrhyw wyddor data neu weithgaredd dadansoddeg uwch sy’n digwydd ar draws Cymru, tra’n adnabod pocedi o ragoriaeth ac arbenigedd. Trwy amlygu’r sgiliau angenrheidiol, gall y Grŵp gyflymu cynnydd yn y maes hwn.”

Gwersi

Un o’r gwersi mwyaf hanfodol a adnabu’r tîm fel rhan o’r Grŵp oedd pwysigrwydd defnyddio’r data ansawdd uchel a ddarparwyd i ddylanwadu ar wneud penderfyniadau clinigol.

Dywedodd Dave a Sally ill dau ei bod yn hanfodol bod gwasanaethau iechyd yn dysgu sut i ddefnyddio technegau dadansoddeg uwch i gefnogi gweithrediad eu gwasanaeth, neu byddai’n dibrisio, ac yn effeithio’n niweidiol ar, y broses casglu data.

Dywedodd Sally:

“Mae hynny’n bwysig iawn oherwydd os nad ydym ni fel clinigwyr, rheolwyr ac ati yn gweld gwerth y cofnod data ansawdd uchel, ni fyddwn yn ei wneud yn dda, a byddwn yn dibrisio'r Adnodd Data Cenedlaethol oherwydd na fydd gennym fynediad at ddata lefel uchel, ac ni fyddwn yn medru defnyddio’r technegau dadansoddeg uwch yma beth bynnag.”

Esblygiad

Gan fod y Grŵp ar gychwyn ei raglen waith ddatblygol, dywedodd Dave wrth iddynt fynd yn eu blaenau ei bod yn hanfodol bod y Grŵp yn dod yn fwy disgybledig yn ei agwedd at gyfathrebu ar draws sefydliadau iechyd Cymru.

Dywedodd:

“Weithiau mae gormod o bwyslais ar dechnoleg, rhaid i ni drefnu ein hunain yn well a bod ychydig yn fwy disgybledig yn y ffordd rydym yn cynllunio a chyfathrebu efo’n gilydd.

“Gyda threfn a chyfathrebu gwell, gallwn fod yn cefnogi a rhoi adnoddau i brosiectau a mentrau yn llawer gwell a mwy effeithlon.

“Mae iechyd y boblogaeth hefyd yn flaenoriaeth gan mai dyma fydd yn rheoli a gyrru ein gwasanaethau yn y byd ôl-Covid.”

Dywedodd Sally wrth symud ymlaen y byddai’n hoffi gweld mwy o waith “proffil-uchel” yn cael ei greu i bwysleisio posibiliadau’r Grŵp.

Dywedodd:

“Hoffwn weld darnau o waith heriol yn dod trwyddo sy’n creu brwdfrydedd ar gyfer hyn ar bob lefel o’r system, fel y gall pobl weld beth sy’n bosibl. .

“Rydym wedi dechrau llawer o weithgareddau ymgysylltu ym maes polisi rheoli gofal iechyd a chyda clinigwyr, er mwyn galluogi hynny i ddigwydd. Cyflymodd y pandemig hynny mewn ffordd, mae pobl yn dechrau deall fod gennym ddata ac y gallwn ei droi’n wybodaeth ddefnyddiol iawn sydd â gwerth uchel.

“Byddwn yn rhagweld hyn yn cael ei ehangu, a rhwydwaith o grwpiau dadansoddeg uwch a gwaith yn cyfathrebu a dysgu oddi wrth ei gilydd ar draws Cymru, i’n cynorthwyo i yrru hyn ymlaen.”

Ewch i’n Advanced Analytics Group page am fwy o wybodaeth ar waith y grŵp.