Neidio i'r prif gynnwy

Defnyddio PROMs mewn Gofal Cleifion Uniongyrchol

 

Drwy lenwi holiaduron am eu symptomau a’u lles, gall cleifion gynorthwyo timau clinigol i wella eu gofal a gwneud gwasanaethau’n fwy effeithlon

Bydd meddygon a nyrsys yn dechrau’r rhan fwyaf o ymgynghoriadau clinigol drwy ofyn i gleifion sut maent yn teimlo. Mae hyn yn rhoi cyfle i’r claf dynnu sylw at eu pryderon a chyfle i glinigwyr nodi problemau y dylid mynd i’r afael â hwy.

Gan fod amser clinig yn aml wedi’i gyfyngu, mae GIG Cymru yn galluogi mwy a mwy o gleifion i wneud hyn cyn eu bod yn mynychu eu hapwyntiad clinig. Mae rhai o’n gwasanaethau yn mynd un cam ymhellach: gan ddefnyddio’r holiaduron i dracio iechyd cleifion o bell. Gall clinigwyr alw cleifion i mewn yn gyflym os bydd eu cyflwr yn dirywio, tra’n caniatáu i eraill osgoi teithiau diangen i’r clinig.

Mae’r profiad hyd yma yn awgrymu bod y dull newydd ar arloesol hwn yn golygu fod pawb ar eu hennill. Gall cleifion gael mwy o gysylltiad â gwasanaethau – ar-lein, dros y ffôn, ac yn bersonol – a threulio mwy o amser yn trafod yr hyn sy’n bwysig iddynt hwy. Drwy gyfyngu ar yr amser a dreulir ar ymgynghoriadau wyneb yn wyneb sydd ddim yn gwella iechyd y claf, caiff amseroedd aros eu lleihau i bawb ac mae’r gofal yn cael ei ganolbwyntio ar y rheini sydd ei angen.

Ar y cyfan, mae’r dull hwn yn cynorthwyo i gael gwell gwerth am yr amser a’r adnoddau y mae cleifion a gwasanaethau yn eu buddsoddi mewn cynnal iechyd da.

 

Llenwi holiaduron PROMs

Mae cleifion a darparwyr gofal am gael yr un peth: iechyd da ar gyfer defnyddwyr gwasanaeth. Fodd bynnag, dengys ymchwil fod gan gleifion a chlinigwyr weithiau wahanol ddiffiniadau o ganlyniadau da. Yn draddodiadol, mae’r ffocws ym maes gofal iechyd yn fyd-eang wedi bod ar ganlyniadau a ddiffinnir gan arbenigwyr clinigol. Yn ystod y blynyddoedd diwethaf gwelwyd symudiad tuag ar Fesurau Canlyniadau a Adroddir gan Gleifion (PROMs).

Mae GIG Cymru yn arweinydd byd mewn defnyddio’r dull hwn sydd wedi’i ganoli ar y claf. Defnyddir PROMs yn eang mewn astudiaethau ymchwil i fesur gwerth ymyriadau gofal iechyd, yn cynnwys meddyginiaeth, llawfeddygaeth ac adsefydlu. Mae GIG Cymru yn mynd ymhellach drwy integreiddio PROMs mewn gofal cleifion uniongyrchol fel rhan o’n Cynllun Gweithredu Gofal Iechyd Seiliedig ar Werth (2019-2022).

‘Mae pobl wedi arfer â bancio ar-lein ac archebu tocynnau ar wefannau - maent yn disgwyl i’r GIG ddefnyddio technoleg i wella eu profiad.

Mae adborth gan gleifion yn dweud wrthym eu bod yn hapus i ddarparu PROMs cyn belled bod eu hatebion yn cael eu defnyddio’n dda.’

Sarah Puntoni,
Rheolwr Rhaglen,
Gofal Iechyd Seiliedig ar Werth

Gall llenwi holiaduron gymryd amser ac ymdrech, yn arbennig wrth i gleifion ddechrau ymgyfarwyddo â’r dull newydd hwn. Mae profiad o brosiectau peilot yn dweud wrthym fod cleifion yn fwy cadarnhaol ynglŷn ag asesiadau PROMs pan eu bod yn gwybod y bydd eu hymatebion yn cael eu defnyddio gan y meddygon a’r nyrsys sy’n gofalu amdanynt. Mae ein timau data a TG yn datblygu ‘dangosfyrddau’ a fydd yn cyflwyno PROMs yn weledol mewn ffyrdd sy’n tracio symptomau a lles cyffredinol cleifion dros amser. Bydd data hefyd yn caniatáu i gleifion ddeall sut y mae pobl debyg iddynt hwy yn ymateb i’r gwahanol ddewisiadau triniaeth sydd ar gael. Dyma’r llwybr ar gyfer gwneud penderfyniadau ar y cyd ar sail gwybodaeth, gan arwain at well canlyniadau.

 

Astudiaeth achos: defnyddio PROMs mewn clinigau cardioleg

Gall cleifion methiant y galon lenwi holiaduron cyn ymweliadau a chlinig, gan arbed amser ymgynghori gwerthfawr wrth iddynt gael eu monitro o bell

Mae methiant y galon yn cael effaith sylweddol ar ansawdd bywyd ac fe’i cysylltir â chanlyniadau hirdymor gwael: mae 50% o gleifion yn marw o fewn pum mlynedd i ddiagnosis. Wrth i’r boblogaeth heneiddio, mae nifer y bobl sydd â methiant y galon yn cynyddu. Mae hyn yn arwain at fwy o alw am wasanaethau, yn cynnwys gofal heb ei drefnu lle caiff cleifion eu derbyn i’r ysbyty drwy adrannau brys. Mae hyn i gyd yn ychwanegu’r pwysau ar gyllideb GIG Cymru. Mae’n hollbwysig i bobl sydd â methiant y galon, ac ar gyfer y gwasanaethau iechyd a chymdeithasol yn ehangach, bod clinigau’n cynnig y gwerth gorau posibl.

Sut mae’n gweithio

Mae clinigau methiant y galon yn defnyddio holiaduron PROMs i gasglu data cyn ymgynghoriadau wyneb yn wyneb. Cyflwynodd y gwasanaeth system PROMs drwy ofyn i gleifion lenwi holiadur gan ddefnyddio iPad yn ystafelloedd aros y clinig cyn gweld y nyrs. Mae’r arolwg yn cynnwys tua 20 o gwestiynau sy’n ymdrin â lles yn gyffredinol a materion penodol ar gyfer cyflwr methiant y galon, megis blinder, penysgafnder a phrinder anadl. Mae’r holiadur yn rhoi sgôr cyffredinol sy’n rhoi trosolwg i’r tîm clinigol o sut mae’r claf yn ymdopi, yn ogystal â gwybodaeth am feysydd sy’n peri pryder. Mae hyn yn arbed amser ac yn caniatáu i’r ymgynghoriadau dargedu’r hyn sydd bwysicaf i’r cleifion.

 

‘Gall holiaduron PROMs dynnu’r pwysau oddi ar amseroedd clinig tra’n gwella gwasanaethau i gleifion.
Mae cleifion y mae angen iddynt ymweld â’r clinig yn gweld amseroedd aros byrrach, tra gellir rheoli eraill o bell ond gyda’r tawelwch meddwl ein bod yn cadw llygad arnynt.’

Kathryn Roberts,
Nyrs Glinigol Arbenigol, Cardioleg

‘Mae’n bwysig addysgu cleifion ynglŷn â pham ein bod yn casglu PROMs a sut rydym yn eu defnyddio.
Mae pobl yn hapus i lenwi holiaduron pan fyddant yn gweld hynny fel rhan o’u gofal.’

Linda Edmunds
Nyrs Glinigol Arbenigol, Cardioleg

‘Gall y dull hwn roi mwy o ddewis a hyblygrwydd i gleifion. Er enghraifft, gallant gofnodi gyda ni drwy ffôn gan ddefnyddio’r PROM.
Mae data PROMs hefyd yn ein helpu i gyfeirio cleifion at wasanaethau a allai fod eu hangen arnynt, megis cynghori neu ffisiotherapi.’

Karen Hazel
Nyrs Glinigol Arbenigol, Cardioleg

Gall cleifion nawr gwblhau’r arolygon hyn cyn dod i’r clinig. Anfonir neges destun dri diwrnod cyn eu hapwyntiad. Bydd cleifion yn clicio ar ddolen ac yn llenwi’r holiadur. Mae rhai cleifion yn hapus i lenwi’r holiadur eu hunain tra bod eraill angen cymorth gan aelod o’r teulu neu ofalwr. Mae’r system yn hwyluso ymgynghoriadau telefeddygaeth os bydd cleifion angen cefnogaeth dros y ffôn neu na allant deithio i’r clinig. Gellir hefyd telefonitro pwysedd gwaed, cyfradd curiad y galon a phwysau i sbarduno timau clinigol i gysylltu â chleifion sy’n dangos arwyddion o ddirywiad.

Gwersi a ddysgwyd

Mae defnyddio PROMs mewn gofal uniongyrchol yn gofyn am newid mewn diwylliant gan staff a chleifion. Gall hyfforddiant ar gyfer staff a chefnogaeth i gleifion yn y camau cynnar gynorthwyo i sicrhau cefnogaeth wrth i dimau a defnyddwyr gwasanaethau bontio o’r model gofal traddodiadol i ddull sy’n canolbwyntio fwy ar yr unigolyn gyda phenderfyniadau’n cael eu gwneud ar y cyd. Pan fo’r dull hwn yn dangos gwelliannau amlwg - megis lleihad mewn amseroedd aros neu ryddhau cynharach o’r ysbyty - mae lefel yr ymgysylltu’n cynyddu. Bydd sicrhau bod cleifion sy’n cael diagnosis o’r newydd yn ddechrau eu taith gyda PROMs yn ychwanegu lefel newydd o fewnwelediad ar sut y gellir optimeiddio gofal cleifion.

 

Beth nesaf?
Defnyddir PROMs mewn gofal cleifion uniongyrchol ar gyfer ystod o gyflyrau cronig (e.e. clefyd llid y coluddyn) a gweithdrefnau dewisol (e.e. llawfeddygaeth). Bydd Mesurau Profiad a Adroddir gan Gleifion (PREMs) hefyd yn cael eu hadeiladu i mewn i’r holiaduron hyn er mwyn cael mewnwelediad newydd am fodlonrwydd cleifion a gwella dyluniad gwasanaethau. Bydd angen cefnogaeth barhaus ar gyfer staff a chleifion, yn arbennig defnyddwyr gwasanaeth hŷn a’r rheini y mae eu cyflyrau yn effeithio ar eu gallu i gwblhau arolygon PROMs/PREMs. Dylai hyn gynorthwyo i gynyddu cyfraddau ymateb.

‘Rydym am i gasglu PROMs gael ei integreiddio i’r system iechyd. Wrth i gleifion a staff ddod i arfer â chreu a defnyddio’r data hwn, ac wrth iddo roi budd i ofal cleifion uniongyrchol, fe ddaw’n rhywbeth a fydd yn fater o drefn,’ Amanda Willacott, Rheolwr Rhaglen, Gofal Iechyd Seiliedig ar Werth.