Neidio i'r prif gynnwy

Dull cenedlaethol ar gyfer casglu data canlyniadau cleifion

Mae gwybodaeth am ganlyniadau a phrofiadau cleifion yn hollbwysig i ofal iechyd seiliedig ar werth. Mae mesur setiau safonol o ganlyniadau ar draws Cymru yn rhoi cyfle i gymharu, sy’n ysgogi gwelliannau mewn gwasanaeth.

Mae gwybodaeth am ganlyniadau a phrofiadau cleifion yn sbarduno gofal iechyd a ysgogir gan ddata. Mae ansawdd y data o bwys: cam cyntaf hollbwysig i ddefnyddio data’n dda yw penderfynu beth ddylid ei fesur a gweithredu dull unffurf ar draws y wlad. Mae hyn yn gosod gwaelodlin gyffredin i gymharu datblygiadau yn y dyfodol. Mae’n amlygu gwasanaethau sy’n perfformio’n dda y gall pobl eraill ddysgu ganddynt.

Mae dewis y Mesurau Canlyniadau a Adroddir gan Gleifion (PROMs) a Mesurau Profiad a Adroddir gan Gleifion (PREMs) cywir yn gam hollbwysig. Ar gyfer llawer o gyflyrau, mae llawer o setiau canlyniadau sy’n bodoli eisoes a ddatblygwyd yn fyd-eang.

‘Y ffordd fwyaf effeithiol i gasglu PROMs a PREMs yw cytuno at set gyffredin o ddata ar draws Cymru. Fel arall, rydych yn cymharu pethau gwahanol’

Kathleen Withers
Uwch Ymchwilydd, Cedar

Mae’r rhain yn cynnwys setiau safonol o’r Consortiwm Rhyngwladol ar gyfer Mesur Canlyniadau Iechyd (ICHOM), sefydliad y mae GIG Cymru wedi sefydlu partneriaeth ag ef.

Creodd arbenigwyr yn Cedar gronfa ddata o’r offer sy’n bodoli’n barod a gweithiodd gyda thimau clinigol i nodi’r set fwyaf addas i’w defnyddio’n genedlaethol. Gweithiodd y timau profiad cleifion ym Ymddiriedolaethau a Byrddau Iechyd GIG Cymru gyda chlinigwyr a chleifion i gytuno ar bwynt cyffredin yn siwrnai’r claf ar gyfer casglu data. Ymgysylltwyd â’r cyhoedd drwy gyfres o grwpiau ffocws. Cytunwyd ar gasgliad o gwestiynau cyffredin i’w defnyddio gyda’r holl gleifion. Gall timau clinigol ychwanegu cwestiynau eraill ar ganlyniadau, sy’n benodol i gyflwr cleifion. Gofynnir i’r cleifion lenwi’r holiaduron gan ddefnyddio platfform electronig.

Mae’r dull hwn yn sicrhau ffordd gyson o gasglu data ar draws ysbytai a sefydliadau yn GIG Cymru. Gall clinigwyr ddefnyddio’r data ar gyfer dysgu cymheiriaid; mae profiad cleifion lleol yn rhoi rhaglenni gwella priodol; a gall y canlyniad ysgogi’r agenda Gofal Iechyd Darbodus drwy sicrhau bod adnoddau’n cael eu defnyddio’n dda. 

Beth yw Cedar?

Canolfan werthuso academaidd GIG yw Cedar, sy’n rhan o Fwrdd Iechyd Prifysgol Caerdydd a’r Fro a Phrifysgol Caerdydd.

Mae Cedar yn cefnogi gwneud penderfyniadau mewn gofal iechyd drwy ddarparu gwybodaeth ac argymhellion ar ymyriadau gofal iechyd, dyfeisiau meddygol a diagnosteg, a chyfluniad gwasanaeth y GIG.

Gweithrediad cenedlaethol

Unwaith bod setiau cyffredin o PROMs a PREMs wedi’u pennu, yr her yw eu gwreiddio’n genedlaethol. Er mwyn sicrhau bod setiau data yn rhai y gellir eu cymharu, dylid llenwi holiaduron ar yr un pwynt yn siwrnai’r claf a gan ddefnyddio’r un fformat. Yna gellir rhannu’r wybodaeth gan fyrddau iechyd a’i dadansoddi ar lefel genedlaethol.

Mae’r dull cenedlaethol hwn yn meithrin diwylliant o wella ac yn codi safonau ar draws y wlad, heb atal arloesedd lleol. ‘Rydym yn defnyddio dull cenedlaethol ar gyfer popeth a wnawn,’ eglura Sarah Puntoni, Rheolwr Rhaglen ar gyfer Gofal Iechyd Seiliedig ar Werth. ‘Gallwn yn dal gael mabwysiadwyr cynnar neu fentrau newydd y gellir eu ehangu’n genedlaethol. Y peth pwysig yw bod gennym set data gofynnol ar gyfer y wlad gyfan.’

Gwaith yn y dyfodol

Bydd grym y wybodaeth a gesglir ar draws GIG Cymru i wella gwasanaethau yn tyfu dros amser. Pan fo set data fawr, gadarn ar gael bydd clinigwyr mewn sefyllfa i ragfynegi canlyniadau cleifion gyda lefelau cynyddol o hyder. Ar gyfer cleifion, bydd hyn eu grymuso ynglŷn â dewisiadau triniaeth: bydd gwybodaeth am ganlyniadau a phrofiadau cleifion tebyg iddynt hwy yng Nghymru yn ysgogi dewisiadau ar sail gwybodaeth.

Drwy gyfuno data ar ganlyniadau a phrofiadau cleifion gyda gwybodaeth am gost gofal, bydd hi hefyd yn bosibl dewis ymyriadau a thechnolegau sy’n rhoi’r gwerth gorau. Er enghraifft, bydd PROMs a PREMs, wedi’u cyfuno â gwybodaeth am gost gofal dros gyfnod o 10 mlynedd, yn rhoi darlun llawnach ynglŷn â sut y mae gwahanol ddewisiadau triniaeth yn cyfrannu i’r nod o wella bywydau cleifion. Yn ymarferol, gall ddylanwadu ar benderfyniadau ynglŷn â pha fewnblaniad clun, stent y galon neu raglen adsefydlu i’w hariannu.

Potensial ymchwil

Mae’r cyfoeth o ddata o ansawdd uchel a gesglir yng Nghymru yn rhoi potensial enfawr ar gyfer ymchwilwyr clinigol ac academaidd. Mae byrddau iechyd yn gweithio gyda phrifysgolion ac eraill i archwilio sut y gellir cael mewnwelediadau ffres o’r setiau data mawr ac sy’n dal i dyfu a ddatblygir drwy gasglu PROMs a PREMs.

Gyda set eang o ddata fel hyn mae potensial gwych i lywio sut yr ydym yn darparu gwasanaethau yng Nghymru. Gellir ei ddefnyddio i astudio gwerth mewnblaniadau neu gyffuriau ac rydym yn awyddus i gydweithredu gydag ymchwilwyr eraill ar hyn.’

Robert Palmer
Uwch Ymchwilydd, Cedar