Neidio i'r prif gynnwy

Gofal Iechyd Seiliedig ar Werth: Beth yw'r manteision i gleifion?

Mae Gofal Iechyd Seiliedig ar Werth yn cynorthwyo i ailgyfeirio gwasanaethau er mwyn iddynt ganolbwyntio mwy ar Fesurau Canlyniadau a Adroddir gan Gleifion (PROMs). Drwy ddiffinio a chasglu PROMs ar ffurf asesiadau iechyd digidol gall clinigwyr wella gofal cleifion penodol a gwneud gwasanaethau’n well ar gyfer y boblogaeth.

Bydd cleifion yn cyfrannu at hyn drwy lenwi holiaduron naill ai mewn clinigau neu gartref. Asesiadau byr wedi'u strwythuro yw’r holiaduron hyn sy’n dangos sut mae unigolyn yn teimlo ar y diwrnod hwnnw mewn perthynas â’i gyflwr ac ansawdd bywyd yn gyffredinol. Mae’r data hwn yn grymuso cleifion a chlinigwyr i wneud penderfyniadau ar sail gwybodaeth. Er enghraifft, gall ddylanwadu ar y dewis o driniaeth neu benderfynu a oes angen i glaf fynychu clinig yn bersonol. Mae Gofal Iechyd Seiliedig ar Werth yn gwella’r gwaith o wneud penderfyniadau ar y cyd a gwella gofal wedi’i ganoli ar yr unigolyn.

Wrth greu systemau i gasglu a dadansoddi’r wybodaeth hon, mae GIG Cymru wedi buddsoddi mewn technolegau sy’n gwella’n sylweddol y cyfathrebu gyda chleifion. Defnyddir y systemau hyn gan rai gwasanaethau i alluogi tele-feddygaeth.

Drwy ddefnyddio ffonau clyfar a dyfeisiau llechen gall cleifion gyfathrebu o bell gyda thimau clinigol ynglŷn â’u hiechyd. Rhydd hyn gyfleoedd i gyrchu gofal yn gyflym os bydd angen. Mae hefyd yn arbed amser, anghyfleuster a chost cysylltiedig â theithio i apwyntiadau clinig diangen ar gyfer cleifion.

Gwell gwasanaethau i bawb

Bydd Gofal Iechyd Seiliedig ar Werth yn cymell gwneud penderfyniadau yn GIG Cymru. Bydd yn cynorthwyo i benderfynu lle mae buddsoddiad yn ychwanegu’r mwyaf i wella canlyniadau cleifion, a lle nad yw’n gwneud hynny. Mae defnyddio adnoddau’n dda yn hollbwysig i sicrhau bod gwasanaethau’n rhoi’r hyn sydd ei angen ar gleifion mewn modd cynaliadwy. Drwy wneud gwasanaethau’n fwy effeithlon, bydd profiad pob claf yn gwella - er enghraifft, drwy leihau rhestrau aros a blaenoriaethu’r rheini sydd â’r angen mwyaf yn gyntaf.

Gellir defnyddio data cleifion hefyd at ddibenion ymchwil. Tra’n sicrhau preifatrwydd a diogelwch data, gall setiau data mawr gynorthwyo clinigwyr a chynllunwyr gwasanaeth i ddeall anghenion y claf a’r ffordd orau i sicrhau gwerth. Mae hyn yn cyfrannu at GIG Cymru sy’n graffach, wedi’i ysgogi gan ddata i bawb.

“Dydyn ni ddim yn gyfarwydd â gwneud pethau ar-lein ac mae llenwi ffurflen PROMs dros y ffôn yn hwyl, diddorol ac yn bleser. Caf gysur gan yr alwad ac rydym yn teimlo ein bod yn cael ein trin ag urddas”

Claf Cardioleg, Bwrdd Iechyd Prifysgol Bae Abertawe

Gofal Iechyd Seiliedig ar Werth: Beth mae’n ei olygu i glinigwyr?

Gall clinigwyr gael yr effaith orau o’u cysylltiadau â’u cleifion drwy adolygu PROMs a gesglir o bell, defnyddio data a sbarduno newidiadau mewn ymddygiad, a thynnu sylw at feysydd lle bydd buddsoddiad yn rhoi gwerth i gleifion.

Dewisir yr offer a ddefnyddir i gasglu PROMs gan ein clinigwyr er mwyn sicrhau eu bod yn addas i anghenion cleifion sy’n defnyddio gwasanaethau GIG Cymru. Gall ein timau clinigol adolygu PROMs cyn bod y claf yn dod i’r clinig, gan gynorthwyo i wneud apwyntiadau yn fwy effeithlon ac i nodi meysydd sydd angen sylw.

Gall data PROMs gynorthwyo i flaenoriaethu’r cleifion sydd â’r angen mwyaf, gan helpu i wneud y defnydd gorau o amser y clinig. Mae hyn yn caniatáu i achosion brys gael eu nodi a’u rhoi ar lwybr carlam, tra'n ysgafnhau’r pwysau ar wasanaethau drwy leihau apwyntiadau dilyn i fyny wyneb yn wyneb diangen. Mae cyfleoedd i ganolbwyntio ar apwyntiadau dilyn i fyny angenrheidiol yn rhoi mwy o foddhad swydd i’n timau clinigol prysur.

Dangosfyrddau data

Mae ein harbenigwyr data yn gweithio gyda thimau clinigol i greu dangosfyrddau data sy’n cynorthwyo ein staff llinell flaen prysur i ddelweddu data PROMs allweddol ar gyfer cleifion unigol. Mae’r dangosfyrddau hyn wedi’u teilwra i anghenion meddygon a nyrsys sy’n eu defnyddio. Mewn rhai meysydd clefydau mae’n well gan dimau clinigol i ddata gael ei gyflwyno ar ffurf graffig, gyda gwybodaeth mewn cod lliw neu fel sgôr cyfanredol yn dangos sut mae claf yn ymdopi.

Bydd data wedi'i gydgasglu gan nifer fawr o gleifion yn rhoi mewnwelediadau all ysgogi sgyrsiau rhwng claf a chlinigydd ynglŷn â dewis o driniaeth neu newidiadau mewn ffordd o fyw. Gan ddefnyddio data o Gymru, bydd yn dangos i’r claf y canlyniadau tebygol ar gyfer unigolyn nodweddiadol fel ef neu hi. Gall hyn lywio disgwyliadau’r claf a symbylu rhywun i gymryd camau a fyddai’n gwella ei ganlyniadau - megis rhoi’r gorau i ysmygu, gwneud ymarfer corff neu wella diet.

 

Gall PROMs fod yn amhrisiadwy er mwyn cynorthwyo i optimeiddio canlyniadau ar sawl lefel:

Ar gyfer claf unigol, maent yn galluogi’r tîm clinigol i ganolbwyntio ar yr hyn sy’n bwysig i’r claf. Gall data PROMS cyfanredol gynnig sail i glaf unigol wneud penderfyniad am ei ofal ei hun, yn seiliedig ar brofiad unigolion eraill sy’n dioddef o gyflwr tebyg.

Ar gyfer carfan o gleifion, maent y rhoi data a allai lunio sail i welliannau mewn llwybrau cleifion, canlyniadau triniaethau penodol, a dewis priodol cleifion ar gyfer triniaethau o’r fath.

Ar lefel bwrdd iechyd a phoblogaeth, gallai data PROMS alluogi gofal mwy effeithlon ac effeithiol, a lleihad mewn gwariant ar ymyriadau gwerth isel. Byddai cyfleoedd yn cael eu creu ar gyfer buddsoddiad pellach mewn triniaethau sy’n dangos gwerth mewn gofal iechyd.

Dr Susan Goodfellow, Arweinydd Gwelliant Clinigol ar gyfer Gofal Iechyd Seiliedig ar Werth

 

Bydd clinigwyr hefyd yn elwa gan ddealltwriaeth ddyfnach a ysgogir gan ddata o’r gwasanaethau a’r ymyriadau y maent yn eu darparu. Gyda’r data am anghenion gwasanaeth a gwerth ymyriadau sydd ar gael, gall clinigwyr fireinio sut y maent yn darparu gofal a chreu achos busnes dros ailddyrannu adnoddau neu ar gyfer buddsoddiad pellach.