Neidio i'r prif gynnwy

Gofal Iechyd Seiliedig ar Werth yng nghyfnod COVID

 

Cyfweliad: Dr Sally Lewis, Arweinydd Clinigol Cenedlaethol ar gyfer Gofal Iechyd Seiliedig ar Werth a Darbodus, yn archwilio sut y gallai’r pandemig fod yn gatalydd ar gyfer cyfnod newydd o ofal

Cefndir
Mae’r pandemig COVID-19 wedi ychwanegu pwysau at system sydd eisoes dan straen, gan greu galw newydd ac annog ailfeddwl ynglŷn â sut y mae gwasanaethau’n cael eu darparu. Dywed Dr Lewis bod Gofal Iechyd Seiliedig ar Werth yn cynnig llwybr tuag at fodelau gofal newydd a mwy cynaliadwy drwy ganolbwyntio ar ganlyniadau cleifion a chofleidio technoleg tele-iechyd brofedig.

Beth yw Gofal Iechyd Seiliedig ar Werth a pham fod sylw ar y mater nawr?

Y prif syniad yw rhoi’r canlyniadau iechyd gorau y gallwn i boblogaeth Cymru gyda’r adnoddau sydd gennym. Rydym wedi bod yn defnyddio’r dull hwn mewn nifer o feysydd therapiwtig yn ystod y blynyddoedd diwethaf. Mae ein tîm Gofal Iechyd Seiliedig ar Werth wedi gweithio gyda thimau clinigol a chleifion i gasglu Mesurau Canlyniadau a Adroddir gan Gleifion (PROMs) mewn clinigau neu o bell ar ddyfeisiau symudol.

Sut y defnyddiwyd y dull hwn mewn ymateb i COVID-19?

Yn ein hymateb i COVID-19 rydym wedi symud i system frysbennu o bell ar gyfer yr holl gleifion sydd mewn gofal sylfaenol ac wedi gweld cynnydd cyflym mewn defnydd ymgynghori drwy fideo er mwyn cefnogi gwneud penderfyniadau diogel.

Mae newid wedi digwydd yn gyflym iawn drwy ddefnyddio galluogwyr y gweithlu a digidol. Mae peth o’r newid system hon o ran darparu gofal iechyd yn gadarnhaol a dylid cydio ynddo a’i fabwysiadu er budd pawb yn y tymor hwy.

Beth fu effaith y pandemig ar y system gofal iechyd?

Daeth llawer iawn o ofal iechyd i stop yn sydyn pan ddechreuodd y pandemig oherwydd yr angen am fesurau rheoli haint llym ac er mwyn creu lle ar gyfer y don enfawr o achosion COVID-19 oedd yn cael ei rhagweld. Mae’n rhaid cynnal gwasanaethau hanfodol ar gyfer cyflyrau sy’n peryglu bywyd neu’n newid bywyd drwy’r gydol yr amser.

Mae cael canlyniadau teg a da ar gyfer pobl sydd â symptomau clefyd sydd ddim yn COVID yr un mor bwysig i wella canlyniadau o COVID-19 (ac atal lledaeniad haint). Felly mae cynnal gwasanaethau hanfodol ar gyfer cyflyrau sy’n bygwth bywyd neu sy’n sensitif o ran amser yn bwysig ond yn heriol a dylid rhoi blaenoriaeth iddynt.

Pa rôl fydd Gofal Iechyd Seiliedig ar Werth yn ei chwarae mewn adferiad ar ôl COVID?

Mae canolbwyntio ar ganlyniadau a gwerth yn gymorth defnyddiol i wneud penderfyniadau wrth i ni roi gofal iechyd yn ôl ar y llwybr cywir, gan sicrhau ein bod yn defnyddio’r cyfle i ‘ailosod’ y system a pheidio â dychwelyd i ffyrdd gwerth is o weithio. Gallai ffyrdd gwerth is o weithio gynnwys apwyntiadau dilyn i fyny cleifion allanol sydd ddim yn gwbl angenrheidiol o safbwynt y claf ac sydd hefyd yn defnyddio amser clinigol, neu ymyriadau sydd o werth clinigol isel.

Bydd y cyfnod adfer ar ôl COVID yn amser anodd i ofal iechyd wrth i ni geisio mynd i’r afael ag ôl-groniad y galw, a’r cynnydd mewn galw yn y gymuned. Mae Gofal Iechyd Seiliedig ar Werth yn ein cynorthwyo i gyfeirio adnoddau i’r mannau lle gallwn flaenoriaethu’r angen mwyaf yn gyntaf – a chael y canlyniadau gorau y gallwn i bobl Cymru.

Drwy ganolbwyntio ar ganlyniadau, gallwn osgoi niwed heintiau sydd ddim yn COVID a sicrhau tegwch ar draws y system.

A yw gwneuthurwyr penderfyniadau yn fwy agored i Ofal Iechyd Seiliedig ar Werth?

Cyn y pandemig roeddem yn gwybod bod llawer o weithgarwch gwerth isel nad oedd yn defnyddio adnoddau yn y modd gorau posibl yn digwydd. Mae Gofal Iechyd Seiliedig ar Werth yn ffordd i ganfod beth sy’n gweithio’n dda a beth sydd ddim – a sicrhau ein bod yn gwneud mwy o’r hyn sy’n dda.

Golygodd cynnydd yn y galw am wasanaethau ei bod eisoes yn hanfodol ein bod yn dod o hyd i ffyrdd cynaliadwy o ddarparu gofal i gleifion, yn arbennig y rheini sy’n byw gyda nifer o gyflyrau. Nawr mae COVID yn ychwanegu pwysau newydd i system sydd dan straen felly mae brys newydd ynglŷn â chofleidio Gofal Iechyd Seiliedig ar Werth. Os oes rhywbeth da wedi dod o’r trychineb hwn, y peth hwnnw yw ein bod wedi cael ein gorfodi i bwyso’r botwm ailosod. Yr her yw sicrhau ein bod yn aildanio’r system yn llwyr yn hytrach na llithro’n ôl i’n hen batrymau anghynaliadwy.

Er mwyn mabwysiadu dull seiliedig ar werth ar draws GIG Cymru bydd angen buddsoddi mewn pobl a thechnoleg a fydd yn y diwedd yn caniatáu i ni ddefnyddio ein hadnoddau - amser proffesiynol, gofod clinigol ac arian - yn y ffordd orau bosibl.

A yw'r archwaeth am Ofal Iechyd Seiliedig ar Werth wedi cynyddu ymhlith cleifion?

Nid yw’r rhan fwyaf o bobl ym meddwl am Ofal Iechyd Seiliedig ar Werth, ond mae cleifion agored i niwed yn sicr yn gadarnhaol iawn ynglŷn â thechnolegau sy’n sicrhau y gofalir amdanynt heb ymweliadau clinig diangen. Mae’r pandemig wedi arwain at lawer iawn o dechnoleg ddigidol yn cael ei mabwysiadu i gefnogi ymgynghori o bell, ac erbyn hyn mae diddordeb mawr iawn yn PROMs fel ffordd i asesu a chyfathrebu â chleifion o bell. Diffyg brwdfrydedd yn aml fydd yr ymateb i bwysau ar gyfer newid. Ond nawr mae gwerthfawrogiad gwirioneddol o sut y gall data PROMs wella profiad y claf a gwneud gwasanaethau’n fwy effeithlon.

Bydd PROMs yn cynorthwyo clinigwyr i flaenoriaethu cleifion a gweithio drwy’r ôl-groniad yn effeithlon - heb orfod ffonio pob claf yn unigol, sydd ddim yn ymarferol. I fod yn glir, bydd wastad angen cysylltiadau wyneb yn wyneb. Yr allwedd yw trin y rheini sydd â’r angen mwyaf yn gyntaf. Er enghraifft, mewn clinigau clefyd llygad rydych eisiau targedu’r rheini â glawcoma sydd mewn perygl o fynd yn ddall, neu bobl y byddai llawfeddygaeth cataract yn gwella eu bywyd.

Sut fydd COVID-19 yn cynyddu’r galw am wasanaethau?

Cynigodd bapur diweddar gan Ruth Crowder, Prif Gynghorydd Therapïau i Lywodraeth Cymru, fewnwelediadau trawiadol i’r anghenion yn y tymor canolig i’r hirdymor. Mae’n grwpio cleifion yn bedwar dosbarth: y rheini sy’n gwella o COVID-19 yn y gymuned; y rheini sydd â dirywiad pellach yn eu gweithrediad o ganlyniad i oedi ymyriad; pobl wnaeth osgoi defnyddio gwasanaethau yn ystod y pandemig ac sydd erbyn hyn mewn perygl cynyddol o anabledd ac afiechyd; a grwpiau sy’n ynysu’n gymdeithasol neu’n gwarchod eu hunain, y cafodd y clo mawr effaith negyddol ar eu lles corfforol neu feddyliol.

Rydym yn siarad â’r grŵp Therapïau ynglŷn â sut y gallwn ddefnyddio Gofal Iechyd Seiliedig ar Werth fel dull i gefnogi’r nifer sylweddol i gleifion yr effeithiwyd arnynt mewn gwahanol ffyrdd gan y pandemig. Mae mesurau canlyniadau a fydd yn gallu ein cynorthwyo i asesu eu hanghenion yn cynnwys offer ansawdd bywyd EQ-5D, PROMIS 10 sydd eisoes yn cael ei ddefnyddio mewn gofal sylfaenol, ac offer asesu anabledd WHODAS. Mae angen i ni gasglu data ar samplau o gleifion er mwyn asesu eu hanghenion fel y gallwn gynllunio gwasanaethau i ymdopi â’r don fawr o anghenion adsefydlu sy’n deillio o COVID 19.

A allai buddsoddiad mewn atal, ymyrryd cynnar ac adsefydlu gael ei ohirio o gofio bod y rhestrau aros wedi tyfu a bod cyllidebau dan straen?

Y ffaith yw, os na fyddwn yn cefnogi pobl drwy ragsefydlu ac adsefydlu, byddant yn cyrraedd drws yr ysbyty yn hwyr neu’n hwyrach - yn aml gydag anghenion sydd hyd yn oed yn fwy difrifol. Yn yr un modd, mae angen i ni gyfeirio adnoddau mewn ffyrdd sy’n lleihau anghydraddoldeb. Daw hyn i gyd yn erbyn cefndir o system dan bwysau. I mi, mae hynny’n cryfhau’r achos dros ddefnyddio dull seiliedig ar werth er mwyn sicrhau ein bod yn buddsoddi adnoddau’n ddoeth. Rhaid mai’r nod yw defnyddio methodoleg gadarn i benderfynu pa fuddsoddiadau sy’n rhoi gwerth o ran gwell canlyniadau cleifion a lleihad defnydd gofal iechyd yn gyffredinol.