Neidio i'r prif gynnwy

Health Data Research UK a'r Bartneriaeth Ymchwil Methodoleg Treialon ar Ganlyniadau a Adroddir gan Gleifion ar gyfer Gwell Gofal

Ym mis Tachwedd 2020 gwahoddwyd aelodau o’r tîm Gwerth mewn Iechyd i ymuno mewn gweithdy a gynhaliwyd gan Ymchwil Data Iechyd y DU a’r Bartneriaeth Ymchwil Methodoleg Treialon a oedd yn ymdrin â Chanlyniadau a Adroddir gan Gleifion ar gyfer Gwell Gofal. Mynychwyd y digwyddiad rhithwir hwn gan ymchwilwyr, cleifion a chlinigwyr o bob rhan o’r DU sydd â diddordeb mewn plannu PROMs mewn arfer mater o drefn er mwyn gwella gofal a chyfleoedd ymchwil.

Cafwyd nifer o gyflwyniadau diddorol iawn ac roedd y rhain yn sbardun ar gyfer trafodaeth fywiog ac amserol ynglŷn â’r heriau a’r cyfleoedd all ddod yn sgil casglu ac integreiddio PROMs. Mae cynlluniau ar waith ar gyfer gweithdai yn y dyfodol i barhau’r trafodaethau a rhoi llwyfan i rannu syniadau a dysgu.