Neidio i'r prif gynnwy

Gofal wedi'i bersonoli – sut y gall PROMs helpu i ddatgloi gofal sy'n canolbwyntio ar yr unigolyn

Teitl y sesiwn: Newid y sgwrs mewn gofal iechyd – rôl PROMs mewn system iechyd gwerth uchel sy’n dysgu

Amser y sesiwn: 15:00

Crynodeb y sesiwn: 

Bydd y sesiwn hon yn canolbwyntio ar rôl PROMs mewn system iechyd yr 21ain ganrif a sut y gall PROMs helpu i newid sgyrsiau rhwng gweithwyr iechyd proffesiynol a chleifion o 'beth sy'n bod arnoch chi?' i 'beth sy'n bwysig i chi?' hefyd.

Bydd y sesiwn yn trafod sut y gall defnydd trefnus o fesurau canlyniadau clinigol, mesurau a adroddir gan gleifion a gwneud penderfyniadau ar y cyd helpu i ysgogi gofal gwerth uchel a sut y gellir defnyddio'r mesurau hyn i lywio system iechyd sy’n dysgu.

Siaradwyr: Yr Athro Alf Collins

Hyd: 45 munud