Neidio i'r prif gynnwy
Dr. Allan Wardaugh

Cyfarwyddwr Clinigol Cenedlaethol Dros Dro

Llywodraeth Cymru

Amdanaf i

Cyfarwyddwr Clinigol Cenedlaethol Dros Dro

Graddiodd Allan o Brifysgol Caeredin a hyfforddodd mewn Ymarfer Cyffredinol ac yna Pediatreg. Wedi iddo gwblhau hyfforddiant Gofal Dwys Pediatrig yn Ysbyty Great Ormond Street, cafodd swydd fel Meddyg Ymgynghorol yn yr Uned Gofal Dwys Pediatrig yng Nghaerdydd yn 2003.

Bu’n Gyfarwyddwr Clinigol Iechyd Plant am nifer o flynyddoedd, gan oruchwylio’r broses symud i Ysbyty Arch Noa i Blant Cymru. Daeth yn Gyfarwyddwr Meddygol Cynorthwyol cyn dod yn Brif Swyddog Gwybodaeth Glinigol cyntaf Bwrdd Iechyd Prifysgol Caerdydd a’r Fro. Mae wedi graddio o Academi Ddigidol y GIG.

Mae wedi bod yn rhan o nifer o raglenni gwybodeg cenedlaethol. Ef oedd y Prif Swyddog Gwybodaeth Glinigol Arweiniol ar Fwrdd y Rhaglen Adnodd Data Cenedlaethol, ac roedd yn arweinydd gofal eilaidd ar gyfer y Rhaglen Ymgynghori Fideo Genedlaethol gyda TEC Cymru ac yn aelod o’r Gell Ddigidol Genedlaethol a oedd yn cynghori Llywodraeth Cymru yn ystod y pandemig.

Fel rhan o dîm a arweiniwyd gan Brif Swyddog Meddygol Cymru, helpodd Allan i ddatblygu’r Fframwaith Clinigol Cenedlaethol ar gyfer Cymru, a gyhoeddwyd ym mis Mawrth 2021. Nod y Fframwaith yw adeiladu ‘system ddysgu iechyd a gofal’ sydd wedi’i harwain yn glinigol ac wedi’i llywio gan ddata yng Nghymru. Bydd yn arwain ar y gwaith o’i weithredu fel Cyfarwyddwr Clinigol Cenedlaethol Dros Dro yn Llywodraeth Cymru.