Neidio i'r prif gynnwy
Dr. Liz O'Riordan

Siaradwr, Awdur a Storïwr

Amdanaf i

Siaradwr, Awdur a Storïwr

Mae Liz O'Riordan yn siaradwr ac yn ddarlledwr rhyngwladol, ac mae’n gydawdur llwyddiannus 'The Complete Guide to Breast Cancer: ‘How to Feel Empowered and Take Control’. Yn 2015 (yn 40 oed) cafodd ddiagnosis o ganser y fron Cam 3 wrth weithio fel Llawfeddyg Ymgynghorol y Fron. Yn 2018 dychwelodd y canser ar wal y frest. Roedd sgil-effeithiau y driniaeth ar gyfer hyn yn golygu bod yn rhaid iddi ymddeol fel llawfeddyg yn 2019.

Yn ystod ei thriniaeth cemotherapi dechreuodd flog llwyddiannus am ei phrofiadau (www.liz.oriordan.co.uk) ac mae bellach yn siarad ledled y byd am sut i wella gofal cleifion. Yn 2020 lansiodd ei phodlediad – ‘Don't Ignore The Elephant’ – sy'n sôn am y pethau nad oes neb arall yn sôn amdanynt, megis rhyw, marwolaeth a delwedd corff. Mae gan Liz gryn ddiddordeb mewn iechyd digidol a goroesi. Mae hi hefyd yn fabolgampwraig frwd ac mae'n angerddol am hyrwyddo manteision ymarfer corff i gleifion canser.