Neidio i'r prif gynnwy
Dr. Mohid S Khan

Ymgynghorydd mewn Gastroenteroleg a Thiwmorau Niwroendocrin ac Arweinydd Clinigol, Gwasanaeth Canser Niwroendocrin De Cymru

Bwrdd Iechyd Prifysgol Caerdydd a'r Fro

Amdanaf i

Ymgynghorydd mewn Gastroenteroleg a Thiwmorau Niwroendocrin ac Arweinydd Clinigol, Gwasanaeth Canser Niwroendocrin De Cymru

Ar ôl graddio o Goleg Imperial Llundain, cwblhaodd Dr Khan hyfforddiant arbenigol uwch mewn Gastroenteroleg a Meddygaeth Fewnol yn Llundain, gan gynnwys Ysbyty Imperial, Ysbyty Coleg Prifysgol Llundain, Ysbyty’r Royal Free ac Ysbyty’r Royal Marsden. Dyfarnwyd PhD iddo am ei ymchwil mewn cylchredeg celloedd tiwmor mewn tiwmorau niwroendocrin tra’i fod yn Ysbyty’r Royal Free/UCL, gan gyhoeddi nifer o weithiau ac ennill gwobrau cenedlaethol/rhyngwladol.

Ar ôl derbyn cymrodoriaeth mewn canlyniadau gastroberfeddol canser yn Ysbyty’r Royal Marsden, symudodd i Gaerdydd ac fe’i penodwyd yn Gastroenterolegydd Ymgynghorol yn 2014 ym Mwrdd Iechyd Prifysgol Caerdydd a’r Fro. Ers 2017, mae wedi llwyddo i arwain y gwaith o drawsnewid y Gwasanaeth Canser Niwroendocrin yn Ne Cymru a gomisiynwyd yn genedlaethol, sydd wedi ennill nifer o wobrau, gan fabwysiadu dull sy’n canolbwyntio ar y claf ar draws nifer o sefydliadau, sy’n enghraifft o gyd-gynhyrchu. Enillodd hyn wobr Rhwydwaith Profiad y Claf y DU, ac mae ar fin cyflawni achrediad fel Canolfan Ragoriaeth Ewropeaidd. Mae’n darparu ymarfer clinigol holistaidd sy’n canolbwyntio ar y claf mewn canser, gastroenteroleg ac endosgopi, ac mae ganddo dros 17 mlynedd o brofiad yn gweithio yn y GIG, yn y byd academaidd, gyda diwydiant a chyda chydweithrediadau rhyngwladol.

Mae Dr Khan wedi bod yn rhan o’r gwaith o addysgu uwch staff/staff iau mewn rhaglenni cenedlaethol/rhanbarthol, o fod yn hyfforddwr ac yn fentor yn y DU, yn aelod cyfadrannol mewn digwyddiadau addysgol cenedlaethol/rhyngwladol, i greu addysg ar-lein i weithwyr proffesiynol ac i gleifion. Mae wedi bod yn rhan o brosiectau iechyd digidol ac, ar hyn o bryd, mae ganddo rolau arwain wrth drawsnewid gofal iechyd yn ddigidol, a hynny ar lefel Bwrdd Iechyd ac ar lefel genedlaethol. Drwy ystod eang o brosiectau y tu mewn i ofal iechyd a’r tu allan iddo, mae’n arloesol ac yn greadigol, ac mae’n ffurfio perthnasoedd cryf gyda phobl o bob cefndir, gan ymdrechu i sicrhau cydraddoldeb, amrywiaeth a chynhwysiant drwy rolau â Chymdeithas Feddygol Prydain a Llywodraeth Cymru.

Pan nad yw Dr Khan yn gweithio, mae modd dod o hyd iddo yn rhedeg o gwmpas De Cymru, yn chwarae mewn bandiau ac yn hyrwyddo llyfrau ei ffrind, ‘This is Going to Hurt: Secret Diaries of a Junior Doctor’, ‘Twas the Nightshift Before Christmas’, ‘Kay’s Anatomy’ a ‘Kay’s Marvellous Medicine’ gan Adam Kay.