Neidio i'r prif gynnwy
Linda Edmunds

Nyrs Ymgynghorol Adsefydlu Cardiaidd a Methiant y Galon

Bwrdd Iechyd Prifysgol Aneurin Bevan

Amdanaf i

Nyrs Ymgynghorol Adsefydlu Cardiaidd a Methiant y Galon

Hyfforddodd Linda mewn Orthopaedeg i ddechrau, cyn cwblhau hyfforddiant nyrsio cyffredinol yn St George’s, Llundain, cyn symud ymlaen i Ysbyty Athrofaol Cymru yng Nghaerdydd. Treuliodd y rhan fwyaf o’i gyrfa ym maes nyrsio Cardiaidd, i ddechrau mewn lleoliadau acíwt cyn canolbwyntio ar adsefydlu cardiaidd a methiant y galon. Ymgymerodd Linda â’r swydd Nyrs Ymgynghorol 20 mlynedd yn ôl ac, yn ystod y cyfnod hwnnw, mae wedi gallu datblygu gwasanaethau adsefydlu a methiant y galon ar draws 3 Bwrdd Iechyd, 2 yng Nghymru ac 1 gyda phartneriaeth gymunedol yng Ngogledd Gwlad yr Haf. Drwy weithio gyda phartneriaeth gymunedol Gogledd Gwlad yr Haf, cafodd hefyd y cyfle i weithio fel Nyrs Ymgynghorol mewn gwasanaethau eiddilwch, lle gwnaeth ddatblygu gwasanaeth newydd yn darparu adolygiad cynhwysfawr a chynlluniau rheoli yn y gymuned.

Mae Linda yn gweithio’n genedlaethol ledled Cymru a’r DU, gan gymryd rôl arweiniol mewn fforymau adsefydlu cardiaidd a methiant y galon, yn ogystal â gweithio’n agos gyda Rhwydwaith Cardiaidd Cymru. Mae Linda wedi ymgymryd â rolau gweithredol yn genedlaethol gyda fforwm nyrsio BACPR (Cymdeithas Atal ac Adsefydlu Cardiaidd Prydain) a BSH (Cymdeithas Prydain ar gyfer Methiant y Galon)

Mae ymchwil flaenorol wedi canolbwyntio ar weithredu tystiolaeth ar waith, canfyddiad cleifion o glefydau ac ysgogi i hunanreoli.

Y ffocws clinigol presennol fu trawsnewid gwasanaethau methiant y galon ac adsefydlu cardiaidd sy’n canolbwyntio ar gleifion lle mae Mesurau Canlyniadau a Adroddir gan Gleifion (PROMs) wedi’u gwreiddio ac yn ganolog i’r gofal a ddarperir, gan ddylanwadu ar ddarpariaeth gofal. Gwnaed hyn gyda phoblogaeth methiant y galon, ac mae newidiadau sylweddol wedi’u gwneud i lwybrau, gan wella canlyniadau cleifion a chanlyniadau clinigol fel ei gilydd.