Neidio i'r prif gynnwy

Holi ac Ateb y Gynulleidfa

Darllenwch y blog ar amrywiad direswm, stiwardiaeth a galw a achosir gan gyflenwad

 

Roedd ein siaradwr gwadd, Tim Kelland, eisiau diolch i bawb a fynychodd ac ailadrodd y gefnogaeth mae’n ei gynnig i glinigwyr GIG Cymru a’r cynnig i’w cyfeirio at hyfforddiant cyllid.

Mae timau'r Academi Gyllid yn ymrwymedig i helpu i adeiladu, hysbysu, gwella sgiliau a meithrin Hyrwyddwyr Gwerth ledled Cymru. Gallant hyfforddi a chynghori ar:

  • Data costio
  • Nodi ac olrhain canlyniadau
  • Achosion busnes a gwneud cynigion
  • Llywodraethu ariannol sylfaenol (gwneud penderfyniadau ariannol, dirprwyo’r gyllideb, rôl deiliad y gyllideb)
  • Gwireddu buddion

 

Maen nhw hefyd yn cynnig sesiynau byr ar-lein sy’n ffordd ddefnyddiol o ddysgu.

 

Os ydych chi’n glinigydd sy'n cynnal prosiect gwerth ar hyn o bryd neu os hoffech chi ddechrau prosiect gwerth yn y dyfodol ond angen mireinio eich sgiliau cyllid, cyllidebu neu achos busnes (neu os credwch y byddai hyn o fudd i'ch tîm prosiect cyfan), cysylltwch â ni ac ewch i wefan yr Academi Gyllid am fwy o wybodaeth Hafan - Academi Gyllid (gig.cymru)

 

Mae'r ddolen ganlynol yn arwain at adnodd a ddatblygwyd gan yr academi fel cyflwyniad i Gyllid GIG Cymru ar gyfer clinigwyr.

Sylfaen yw hon a gallwch chi symud ymlaen i fanylion pellach ar greu achosion a llywodraethu ariannol ar gyfer eich prosiect. Mae hefyd yn cyfeirio at Werth fel bloc adeiladu sylfaenol:

 

https://elearning.heiw.wales/cy/cyflwyniad-i-gyllid-y-gig/

Cyflwyniad i Gyllid GIG Cymru | E-ddysgu (aagic.cymru)