Dydd Mercher 10 Tachwedd 13:00 - 14:30
Session synopsis: Gan adeiladu ar y strategaeth a amlinellir yn Cymru Iachach, cyhoeddodd Llywodraeth Cymru ei Fframwaith Clinigol Cenedlaethol eleni: System Iechyd a Gofal sy’n Dysgu. Gofal Iechyd sy’n Seiliedig ar Werth yw craidd y model cyflenwi hwn ac mae angen gwell gallu i gasglu data a’u troi’n wybodaeth. Caiff y sesiwn hwn ei hwyluso gan Dr Allan Wardhaugh, Cyfarwyddwr Clinigol Cenedlaethol Dros Dro, sy’n arwain y gwaith o’i gweithredu. Bydd panel o arbenigwyr o ledled Cymru yn amlygu rhai o’r datblygiadau diweddaraf o Gymru i helpu i ddod a data’n fyw er mwyn llywio’r agenda trawsnewid ym mhob rhan o GIG Cymru. Byddant yn arddangos ac yn trafod y ‘Fframwaith Gwybodaeth Gwerth’ ac ‘Uwch Ddadansoddeg am Werth’ newydd. Mae’r offer, ffyrdd o weithio a’r datblygiadau gwybodaeth hyn yn hanfodol i ddull sy’n seiliedig ar ddata ac ar werth dros y deng mlynedd nesaf.
Siaradwyr: Dr Allan Wardaugh, Navjot Kalra, Chris Habberley and Iain Bell
Hyd: 90 munudau