Neidio i'r prif gynnwy
Iain Bell

Cyfarwyddwr Data, Gwybodaeth ac Ymchwil Iechyd y Cyhoedd

Iechyd Cyhoeddus Cymru

Amdanaf i

Cyfarwyddwr Data, Gwybodaeth ac Ymchwil Iechyd y Cyhoedd

Mae Iain Bell yn arwain Data, Gwybodaeth ac Ymchwil Iechyd y Cyhoedd Ymddiriedolaeth GIG Iechyd Cyhoeddus Cymru gan geisio adeiladu a defnyddio data, gwybodaeth ac ymchwil er mwyn gwella iechyd a lles ledled Cymru. Mae Iain yn awyddus bod Iechyd Cyhoeddus Cymru yn manteisio ar ddatblygiad a defnydd digynsail technoleg a thechnegau newydd yn ystod y ddegawd ddiwethaf, yn ogystal â gwneud y mwyaf o'r cyfle sy'n deillio o'r galw a gododd yn ystod y pandemig byd-eang am well defnydd a hygyrchedd data ac ymchwil i faterion iechyd y cyhoedd, a mwy o ddefnydd ohonynt. 

Mae Iain wedi gweithio’n flaenorol i’r Swyddfa Ystadegau Gwladol ble roedd yn Ddirprwy Ystadegydd Cenedlaethol a Chyfarwyddwr Cyffredinol Polisi Poblogaeth a’r Cyhoedd. Roedd yn weithgar iawn yn arwain ymateb yr ONS i bandemig COVID-19, gan gynnwys Arolwg Heintiadau COVID-19 sydd wedi bod yn hanfodol wrth fonitro a deall llwybr y pandemig ledled y DU.  Yn ogystal, rheolodd Cyfrifiad 2021 yng Nghymru a Lloegr mewn modd diogel rhag COVID-19.  

Cyn hynny gweithiodd Iain i’r llywodraeth ac roedd yn Brif Swyddog Data ac yn Bennaeth Proffesiwn ar gyfer ystadegau yn yr Adran dros Addysg.  Yn ystod ei yrfa bu hefyd yn gweithio ym maes ystadegau llywodraeth gan gwmpasu ystadegau’r farchnad lafur, cyllid llywodraeth, trafnidiaeth, cyfiawnder, gwaith, pensiynau ac addysg. Mae wedi arbenigo mewn manteisio ar bŵer data gweinyddol hydredol ochr yn ochr ag arolygon i wella’r broses o wneud penderfyniadau. Graddiodd mewn ystadegau o Brifysgol Heriot-Watt.