Dydd Iau 11 Tachwedd 10:00 - 11:00
Session synopsis: Bydd y sesiwn hon yn canolbwyntio ar drafodaeth ynghylch adroddiad byd-eang newydd ar Ofal Iechyd sy’n Seiliedig ar Werth sy’n Canolbwyntio ar yr Unigolyn (PCVBHC), a gyhoeddwyd ar 1 Medi 2021 (gweler: https://www.sprink.co.uk/#pcvbhc ). Bydd Tom yn siarad am un o'r heriau allweddol ym maes gofal iechyd - sut ydyn ni'n galluogi canolbwyntio ar yr unigolyn, gan reoli anghenion a hoffterau poblogaeth yn deg ar yr un pryd? Mae gan gleifion eu nodau eu hunain ac mae’n dilyn, felly bod ganddynt eu canlyniadau, eu prosesau a’u strwythurau gofal dewisol eu hunain. Sut ydyn ni’n deall yr hoffterau hyn? Sut mae sicrhau bod ein systemau gofal yn ymatebol i hoffterau o'r fath? Sut ydyn ni'n esblygu ein systemau mesur i sicrhau bod ein data yn adlewyrchu i ba raddau rydyn ni wedi cyflawni nodau unigolyn? Sut ydyn ni wedyn yn defnyddio'r data hwn i gefnogi ymgynghoriadau, gwella ansawdd a dyrannu adnoddau? Yn olaf, sut ydyn ni'n gwneud hyn i gyd yng nghyd-destun adnoddau cyfyngedig y mae'n rhaid i ni eu defnyddio'n deg? Bydd Tom yn archwilio'r heriau hyn ac yn trafod yr adroddiad yng nghyd-destun y goblygiadau i wahanol grwpiau rhanddeiliaid ar draws ein hecosystemau gofal iechyd.
Siaradwyr: Thomas Kelley
Hyd: 60 munudau