Neidio i'r prif gynnwy
Dr. Thomas Kelley

CEO   

Sprink

Amdanaf i

CEO   

Ar hyn o bryd mae Tom yn Brif Swyddog Gweithredol Sprink (www.sprink.co.uk), sefydliad sy'n gweithio er mwyn galluogi pawb i fwynhau'r canlyniadau iechyd a gofal sy'n bwysig iddyn nhw. 

Rhwng 2018 a 2019, ef oedd y Cynghorydd Clinigol Cenedlaethol ar Ofal Iechyd yn Seiliedig ar Werth (VBHC) i Lywodraeth Cymru.  Rhwng 2013 a 2018 bu’n gweithio yn y Consortiwm Rhyngwladol ar gyfer Mesur Canlyniadau Iechyd (ICHOM).  Sefydlodd swyddfa Llundain yn 2014 ac wedi hynny arweiniodd waith ICHOM yn rhanbarth EMEA rhwng 2014 a 2017.  Yn 2017 cymerodd gyfrifoldeb cyffredinol am weithrediadau dyddiol  ICHOM ar draws ei swyddfeydd yn Llundain a Boston.  Roedd ganddo gyfrifoldeb byd-eang am bartneriaethau strategol ICHOM hefyd.  Cyn gweithio yn ICHOM bu’n ymarfer fel meddyg yn Ysbytai Prifysgol Rhydychen (OUH).  Tra yn yr OUH bu’n gweithio ym maes meddygaeth oedolion gyffredinol, trawma ac orthopaedeg, llawfeddygaeth gyffredinol, meddygaeth frys a llawfeddygaeth blastig.   

Derbyniodd ei BSc a'i MD o Brifysgol Manceinion ac MBA o Brifysgol Rhydychen.