Dydd Mercher 10 Tachwedd 15:30 - 17:00
Session synopsis: Mae Lymphoedema Cymru (Rhwydwaith Lymffoedema Cymru gynt) yn Wasanaeth Cenedlaethol a weithredir mewn ymateb i'r Strategaeth ar gyfer Lymffoedema yng Nghymru (Strategaeth Lymffoedema Llywodraeth Cymru 2009) i sicrhau Gwasanaethau Lymffoedema teg ledled Cymru. Mae LW wedi gweithredu i sicrhau gwerth a gwella canlyniadau i gleifion. Yn 2019, cymeradwywyd Achos Busnes sy’n Seiliedig ar Werth Lymffoedema gan Lywodraeth Cymru a’r Cyd Brif Weithredwyr. Mae rhaglenni gwaith ar y gweill i fodloni gofynion Gofal Iechyd sy’n Seiliedig ar Werth. Bydd pedair rhaglen waith yn cael eu harddangos, gyda phob un yn canmol rhinweddau'r fenter Gwerth mewn Gofal Iechyd o fewn Lymffoedema Cymru (LW).
Mae Prosiect B wedi gwella effeithlonrwydd a lleihau gwastraff, niwed ac amrywiad wrth gaffael dillad cywasgu Lymffoedema yng Nghymru. Datblygwyd Contract Dillad Cywasgu Lymffoedema Cymru Gyfan yn dilyn cydweithredu â chlinigwyr lymffoedema, rhanddeiliaid, Labordy Profi Deunydd Llawfeddygol a Chydwasanaethau GIG Cymru. Mae’r contract hwn yn gwarantu bod cleifion yn derbyn y cynnyrch gorau am y pris gorau o safbwynt caffael sy’n tystio i werth caffael dillad yn hytrach na’u rhagnodi, a sicrhau mynediad prydlon at ddillad yr un pryd. Bydd Dr Thomas a Timothy / Craig yn cyflwyno crynodeb o Brosiect B.
Mae therapi cywasgu is-optimaidd neu amhriodol yn gallu creu niwed i gleifion a gwastraff i'r gwasanaethau iechyd. Datblygwyd y Prosiect Addysg ‘On-The-Ground’ (OGEP) i leihau gwastraff, niwed ac amrywiad trwy gynyddu cymhwysedd a hyder mewn therapi cywasgu. Cafodd OGEP y dasg o uwchsgilio clinigwyr sy’n gweithio o fewn Clinigau Clwyfau ac mewn Lleoliadau Cymunedol. Bydd Karen yn cyflwyno'r OGEP a'r effaith ar amrywiaeth o ganlyniadau gan gynnwys mesurau canlyniadau a adroddir gan gleifion, effeithlonrwydd ac effeithiolrwydd ynghyd ag adborth staff.
Sefydlwyd y Rhaglen Gwella Llid yr Isgroen (CIP) mewn ymateb i'r nifer cynyddol o dderbyniadau yng Nghymru oherwydd Llid yr isgroen (haint ar y croen). O’i ddiagnosio’n brydlon, gall triniaeth â gwrthfiotigau fod yn effeithiol, ond gallai triniaeth sy’n cael ei hoedi neu driniaeth amhriodol beryglu bywyd. Mae’r CIP yn sicrhau bod gan bob claf sydd wedi’i ddiagnosio â Llid yr isgroen (a nodwyd gan ddata derbyn i’r ysbyty) fynediad at wybodaeth ar sail tystiolaeth am lid yr isgroen, sut i’w drin a lleihau ei risg. Gweledigaeth CIP yw sicrhau “Bod pawb yng Nghymru sy’n cael diagnosis o Lid yr isgroen mewn gofal eilaidd yn derbyn rheolaeth effeithlon ac effeithiol, gan leihau’r risg y bydd yn digwydd eto a gwella ansawdd eu bywyd.” Bydd y tîm CIP yn adrodd ynghylch ei sefydlu, y gwaith sydd ar y gweill a'i effaith ym mlwyddyn gyntaf ei weithredu
Disgrifiwyd datblygiad y Mesur Canlyniadau a Adroddwyd gan Gleifion yn benodol am Lymffoedema (LYMPROM ©) yn ystod yr Wythnos Gwerth mewn Iechyd y llynedd. Gyda gwaith dilysu yn parhau, disgrifir gweithrediad ac effaith Mesurau Canlyniadau a Adroddir gan Gleifion, ynghyd â Mesur Profiadau a Adroddir gan Gleifion sy'n benodol i lymffoedema (LYMPREM ©). Bydd Marie yn rhoi adroddiad am weithrediad ac effaith defnyddio porth cleifion ar-lein i awtomeiddio LYMPROM© a LYMPREM©. Mae tynnu sylw at sut mae’r mesurau hyn wedi helpu yn egluro llais y claf fel y gallai therapyddion gynllunio gofal yn unol â’r hyn sy’n bwysig i’r claf, wrth gefnogi’r gwaith o reoli llwyth achosion. Cyflwynir y gwaith sy’n parhau i ganoli data PROM yn unol â Chylchlythyr Iechyd Cymru; gan roi'r cyfle i gyflwyno Dangosfwrdd Clinigol Lymffoedema Cymru.
Siaradwyr: Dr Melanie Thomas, Marie Gabe-Walters, Karen Morgan, Linda Jenkins, Craig Davey
Hyd: 90 munudau