Neidio i'r prif gynnwy
Craig Davey

Arweinydd Rhaglen Gyllid - Gofal Iechyd sy'n Seiliedig ar Werth

Uned Cyflawni Ariannol, GIG Cymru

Amdanaf i

Arweinydd Rhaglen Gyllid - Gofal Iechyd sy'n Seiliedig ar Werth

Mae Craig wedi gweithio gyda Chyllid y GIG er 2011 pan ymunodd ag Adran Gyllid Bwrdd Iechyd Prifysgol Aneurin Bevan. Yn ystod ei gyfnod gydag Aneurin Bevan, enillodd brofiad o weithio ar draws nifer o feysydd yn cynnwys Costio, Gwybodaeth Busnes a nifer of dimau adrannol Partneru Busnes Cyllid. 

Yn 2016, cymerodd Craig y cyfle i ymuno â Thîm Gwybodaeth Busnes a Gwerth y bwrdd iechyd, lle roedd rhan fawr o’r rôl yn cynnwys cefnogi’r gwaith o ddatblygu, gweithredu a darparu Rhaglen Gofal Iechyd sy’n Seiliedig ar Werth y bwrdd iechyd. Yn ystod y cyfnod hwn, roedd Craig yn rhan o nifer o brosiectau allweddol ar draws y rhaglen Gwerth gan weithio’n agos â chydweithwyr clinigol a rheoli mewn perthynas â chyflwyno’r agendau costio a chyllid. 

Yn 2019, ymunodd Craig â’r Uned Cyflawni Ariannol fel Arweinydd Rhaglen Cyllid ar gyfer Gofal Iechyd sy’n Seiliedig ar Werth ac mae bellach yn cefnogi’r gwaith o ddatblygu a gweithredu’r Rhaglen Werth Genedlaethol fel rhan o dîm cenedlaethol. Yn ogystal, mae’n darparu cefnogaeth leol i fyrddau iechyd ynghylch datblygu a darparu ffrydiau gwaith Gwerth lleol allweddol. 

Fel cyfrifydd cymwys, mae Craig, ar hyn o bryd, yn aelod o Gymdeithas y Cyfrifwyr Ardystiedig Siartredig (ACCA) ac mae ganddo gefndir addysg mewn mathemateg.