Neidio i'r prif gynnwy
Anna Tee

Rheolwr Partneriaeth Strategol Macmillan Cymru (Dros Dro)

Cymorth Canser Macmillan

Amdanaf i

Rheolwr Partneriaeth Strategol Macmillan Cymru (Dros Dro)

Anna yw Rheolwr Partneriaeth Strategol Macmillan yng Nghymru lle y mae wedi gweithio ers bron i bum mlynedd wedi gyrfa eang yn y GIG a oedd yn canolbwyntio ar gefnogi gwell profiadau i gleifion.  

Yn ei swydd yn Macmillan, mae Anna a’r tîm yn gweithio ar y cyd gyda’r GIG a phartneriaid eraill ledled Cymru gyda'r nod o sicrhau y bydd pobl sydd â chanser yn derbyn yr wybodaeth a'r gefnogaeth orau bosibl. Mae Anna yn frwd am wneud gwahaniaeth a gwella gwasanaethau mewn ffordd sy’n rhoi pobl wrth galon eu gofal gan weithio i alluogi gwasanaethau sy’n canolbwyntio ar yr hyn sydd wir o bwys i gleifion.  

Mae Anna yn byw yng Nghaerfyrddin gyda’i theulu a chi blewog o’r enw Mabel.  Mae’n ceisio gwneud y gorau o’r cyfleoedd mae bywyd yn eu cynnig a byddai wrth ei bodd yn sgwrsio am ei phrofiadau o weithdai gwydr lliw, datblygu model cyd-fyw wedi’i lywio gan y gymuned ac ailddysgu’r ffidil ar ôl 35 mlynedd, yn ogystal ag unrhyw gyfleoedd i wella profiadau cleifion canser, wrth gwrs.