Neidio i'r prif gynnwy
Darren Lloyd

Pennaeth Llywodraethu Gwybodaeth

Iechyd a Gofal Digidol Cymru

Amdanaf i

Pennaeth Llywodraethu Gwybodaeth

Darren Lloyd yw Pennaeth Llywodraethu Gwybodaeth Iechyd a Gofal Digidol Cymru a'r Swyddog Diogelu Data a gydnabyddir yn ffurfiol ar gyfer y sefydliad. 

Mae Darren wedi gweithio’n helaeth i wasanaethau gweinyddol canolog GIG Cymru am dros 33 o flynyddoedd. 

Dros yr 20 mlynedd diwethaf, mae wedi gweithio’n fwy helaeth ym meysydd cydymffurfiaeth Llywodraethu Gwybodaeth. 

Mae rôl Iechyd a Gofal Cymdeithasol i ddangos cydymffurfiaeth â meysydd Diogelwch Gwybodaeth, Cyfrinachedd a Phreifatrwydd wedi tyfu’n sylweddol gyda dyfodiad systemau electronig. Mae Darren wedi helpu i gyflwyno strategaeth o ddarparu mynediad mwy hygyrch at wybodaeth am gleifion i gasgliad ehangach o weithwyr proffesiynol sy’n gyfrifol am ddarparu Iechyd a Gofal Cymdeithasol yng Nghymru. Mae’r strategaeth honno wedi’i chydbwyso â’r angen i sicrhau y cedwir cyfrinachedd y cofnodion hynny ar gyfer unrhyw systemau a gwasanaethau newydd sy’n dod ar-lein.