Haematolegydd Ymgynghorol ac Arweinydd Myeloma
Bwrdd Iechyd Prifysgol Caerdydd a'r Fro
Haematolegydd Ymgynghorol ac Arweinydd Myeloma
Mae Dr Ceri Bygrave yn Haematolegydd Ymgynghorol ac yn Arweinydd Myeloma yn Ysbyty Athrofaol Cymru Caerdydd, ac yn aelod o Bwyllgor Gweithredol UKMF a’r UKMRA. Cwblhaodd Dr Bygrave ei MPhil ym Mhrifysgol Caerdydd, ac mae wedi parhau â’i diddordeb ymchwil drwy’r UKMRA a thrwy ehangu’r portffolio o Dreialon Clinigol Myeloma sydd ar gael i gleifion yn Ne Cymru. Yn 2021, daeth yn Gyfarwyddwr ar gyfer Ymchwil a Datblygu Haematoleg yn Ysbyty Athrofaol Cymru. Yn ogystal, mae ganddi ddiddordeb mewn data byd go iawn ac mae’n arwain ar brosiect data HaemBase Cymru yn rhan o raglen Rhwydwaith Canlyniadau Haematoleg yn Ewrop (HONEUR).