Neidio i'r prif gynnwy
Dr. Ceri Bygrave

Haematolegydd Ymgynghorol ac Arweinydd Myeloma

Bwrdd Iechyd Prifysgol Caerdydd a'r Fro

Amdanaf i

Haematolegydd Ymgynghorol ac Arweinydd Myeloma

Mae Dr Ceri Bygrave yn Haematolegydd Ymgynghorol ac yn Arweinydd Myeloma yn Ysbyty Athrofaol Cymru Caerdydd, ac yn aelod o Bwyllgor Gweithredol UKMF a’r UKMRA. Cwblhaodd Dr Bygrave ei MPhil ym Mhrifysgol Caerdydd, ac mae wedi parhau â’i diddordeb ymchwil drwy’r UKMRA a thrwy ehangu’r portffolio o Dreialon Clinigol Myeloma sydd ar gael i gleifion yn Ne Cymru. Yn 2021, daeth yn Gyfarwyddwr ar gyfer Ymchwil a Datblygu Haematoleg yn Ysbyty Athrofaol Cymru. Yn ogystal, mae ganddi ddiddordeb mewn data byd go iawn ac mae’n arwain ar brosiect data HaemBase Cymru yn rhan o raglen Rhwydwaith Canlyniadau Haematoleg yn Ewrop (HONEUR).