Neidio i'r prif gynnwy
Dr. Gareth Roberts

Arenegydd Ymgynghorol a Chyfarwyddwr Meddygol Cyswllt

Bwrdd Iechyd Prifysgol Aneurin Bevan

Amdanaf i

Arenegydd Ymgynghorol a Chyfarwyddwr Meddygol Cyswllt

Mae Dr Gareth Roberts yn Arenegydd Ymgynghorol ac yn Gyfarwyddwr Meddygol Cyswllt ym Mwrdd Iechyd Prifysgol Aneurin Bevan. Mae’n arweinydd clinigol ar gyfer y rhaglen gofal iechyd sy’n seiliedig ar werth. Mae’n arweinydd clinigol ar Rwydwaith Clinigol Arennol Cymru ac mae’n ymgynghorydd sy’n ymwneud ag ymchwil, yr oedd ei PhD yn canolbwyntio ar lid ac imiwnedd. Ar hyn o bryd, mae’n brif ymchwilydd ar gyfer astudiaeth genedlaethol sy’n edrych ar y ffactorau demograffig-gymdeithasol sy’n dylanwadu ar wneud penderfyniadau ar y cyd â chleifion a chanddynt fethiant arennol datblygedig.