Neidio i'r prif gynnwy
Dr. Robert Palmer

Gwyddonydd Gofal Iechyd

CEDAR

Amdanaf i

Gwyddonydd Gofal Iechyd

Dechreuodd Rob yn Cedar, Canolfan Ymchwil Technoleg Gofal Iechyd ym Mwrdd Iechyd Prifysgol Caerdydd a'r Fro yn 2016 wedi iddo ennill ei Ddoethuriaeth a gweithio ym Mhrifysgol Abertawe. Mae’n Gymrawd Ymchwil Anrhydeddus ym Mhrifysgol Caerdydd ac yn gyd-oruchwyliwr i hyfforddeion Cedar ar Raglen Hyfforddiant Gwyddonwyr NSHCS ym maes Gwybodeg Iechyd.  

Fel aelod o dîm dadansoddol cenedlaethol Rhaglen Gwerth mewn Iechyd mae gan Rob brofiad o ddadansoddi amrywiaeth o ddata PROMs a PREMs.  Mae wedi cyfrannu at ddilysu offerynnau electronig a Chymraeg PROMs a bu’n cynorthwyo’r gwaith o ddatblygu Platfform PROMs Cenedlaethol GIG Cymru. Mae wedi cyhoeddi a rhoi cyflwyniadau ar bynciau’n cynnwys dadansoddi data, dadansoddi delweddau meddygol, dysgu peirianyddol a chasglu a dadansoddi data PROMS.