Neidio i'r prif gynnwy
Dr. Sarah Davies MBBCh (Anrh), FRCP, MRCGP, PGDip Diabetes

Cyfarwyddwr Clinigol ar gyfer Diabetes mewn Gofal Sylfaenol

Bwrdd Iechyd Prifysgol Caerdydd a'r Fro

Amdanaf i

Cyfarwyddwr Clinigol ar gyfer Diabetes mewn Gofal Sylfaenol

Mae Sarah yn feddyg teulu yng Nghaerdydd ac mae ganddi ddiddordeb arbennig mewn diabetes.  Cymhwysodd yng Ngholeg Meddygaeth Prifysgol Cymru yn 2003. Hyfforddodd fel meddyg yn wreiddiol, ond symudodd i faes ymarfer cyffredinol wedyn ac yno y bu ers hynny. Mae wedi parhau â’i diddordeb mewn diabetes ac mae’n cyflwyno’n rheolaidd ar y pwnc i gydweithwyr mewn cyfarfodydd lleol a chenedlaethol.  Mae’n angerddol am ymarfer cyffredinol, yn enwedig gofal diabetes o ansawdd ardderchog yn y lleoliad gofal sylfaenol.  Mae’n Gyfarwyddwr Clinigol ar gyfer Diabetes mewn gofal sylfaenol ym Mwrdd Iechyd Prifysgol Caerdydd a’r Fro.  Mae’n Eiriolwr Clinigol Diabetes UK, yn aelod o bwyllgor Primary Care Diabetes Society ac yn gyflwynydd ar gyfer NB Medical Hot Topics, gan arwain eu cwrs diabetes.