Mae Sarah yn feddyg teulu yng Nghaerdydd ac mae ganddi ddiddordeb arbennig mewn diabetes. Cymhwysodd yng Ngholeg Meddygaeth Prifysgol Cymru yn 2003. Hyfforddodd fel meddyg yn wreiddiol, ond symudodd i faes ymarfer cyffredinol wedyn ac yno y bu ers hynny. Mae wedi parhau â’i diddordeb mewn diabetes ac mae’n cyflwyno’n rheolaidd ar y pwnc i gydweithwyr mewn cyfarfodydd lleol a chenedlaethol. Mae’n angerddol am ymarfer cyffredinol, yn enwedig gofal diabetes o ansawdd ardderchog yn y lleoliad gofal sylfaenol. Mae’n Gyfarwyddwr Clinigol ar gyfer Diabetes mewn gofal sylfaenol ym Mwrdd Iechyd Prifysgol Caerdydd a’r Fro. Mae’n Eiriolwr Clinigol Diabetes UK, yn aelod o bwyllgor Primary Care Diabetes Society ac yn gyflwynydd ar gyfer NB Medical Hot Topics, gan arwain eu cwrs diabetes.