Neidio i'r prif gynnwy
Eluned Morgan AS

Y Gweinidog Iechyd a Gwasanaethau Cymdeithasol

Llywodraeth Cymru

Amdanaf i

Y Gweinidog Iechyd a Gwasanaethau Cymdeithasol

Cafodd Eluned Morgan ei geni ym 1967 yn Nhrelái, Caerdydd. Cafodd ei haddysg yn Ysgol Gyfun Gymraeg Glantaf. Enillodd ysgoloriaeth i Goleg Iwerydd a gradd mewn Astudiaethau Ewropeaidd o Brifysgol Hull. Bu'n gweithio fel ymchwilydd i S4C, Agenda a'r BBC. 

Dechreuodd gyrfa wleidyddol Eluned yn 27 oed pan gafodd ei hethol fel aelod ieuengaf Senedd Ewrop ym 1994. Hi oedd y bumed merch yng Nghymru i gael ei hethol i rôl wleidyddol lawnamser, a'r gwleidydd llawnamser cyntaf yng Nghymru i gael babi tra oedd hi yn ei swydd. Cynrychiolodd Gymru ar ran y Blaid Lafur o 1994 i 2009. Yn y rôl hon, bu'n llefarydd Llafur ar ddiwydiant, gwyddoniaeth ac ynni, ac yn llefarydd ar ran y Grŵp Sosialaidd o 200 o bobl ar faterion yn ymwneud â Rheoli'r Gyllideb. Ysgrifennodd y Papur Gwyrdd ar ynni ar ran Senedd Ewrop ac arweiniodd drafodaethau'r Senedd ar y Gyfarwyddeb Drydan lle sicrhaodd hawliau newydd ar gyfer cwsmeriaid a mynnu bod Aelod-wladwriaethau'r UE yn mynd i'r afael â thlodi tanwydd. 

O ddiwedd 2009 tan fis Gorffennaf 2013, gweithiodd fel Cyfarwyddwr Datblygu Busnes Cenedlaethol Cymru SSE (SWALEC), un o gwmnïau ynni mwyaf y DU. Yn ystod 2013-2016, gwasanaethodd Eluned Morgan fel Gweinidog yr Wrthblaid dros Gymru yn Nhŷ'r Arglwyddi, ac o 2014-2016 gwasanaethodd fel Gweinidog yr Wrthblaid dros Faterion Tramor. Cafodd ei gwneud yn aelod o Dŷ’r Arglwyddi yn 2011, a'i henw ffurfiol yw'r Farwnes Morgan o Drelái. 

Etholwyd Eluned Morgan i'r Cynulliad Cenedlaethol ym Mai 2016 fel aelod rhanbarthol dros y Canolbarth a'r Gorllewin. Ym mis Tachwedd 2017, cafodd Eluned ei phenodi yn Weinidog y Gymraeg a Dysgu Gydol Oes. Ar 13 Rhagfyr 2018, cafodd ei phenodi yn Weinidog y Gymraeg a Chysylltiadau Rhyngwladol. Penodwyd Eluned yn Gweinidog Iechyd a Gwasanaethau Cymdeithasol ar 13 Mai 2021.