Neidio i'r prif gynnwy
Helen Thomas

Prif Swyddog Gweithredol

Iechyd a Gofal Digidol Cymru

Amdanaf i

Prif Swyddog Gweithredol

Penodwyd Helen yn Brif Swyddog Gweithredol Iechyd a Gofal Digidol Cymru yn 2021 ar ôl treulio’r flwyddyn flaenorol yn Gyfarwyddwr Dros Dro Gwasanaeth Gwybodeg GIG Cymru gan arwain ymateb trawiadol y sefydliad i bandemig Covid-19 a chefnogi’r GIG yng Nghymru i roi’r datblygiadau data a digidol ar waith yn gyflym ac ar raddfa tra hefyd yn llywio’r sefydliad wrth iddo drosglwyddo’n Awdurdod Iechyd Arbennig ar 1 Ebrill 2021. 

Ymunodd â Gwasanaeth Gwybodeg GIG Cymru yn Gyfarwyddwr Gwybodaeth yn 2017 a bu’n allweddol wrth gefnogi’r gwell ansawdd a defnydd o ddata ym maes gofal iechyd a datblygu’r Adnodd Data Cenedlaethol newydd. 

Yn flaenorol, hi oedd y Cyfarwyddwr Gwybodaeth Cynorthwyol ym Mwrdd Iechyd Abertawe Bro Morgannwg ac roedd ganddi gyfrifoldeb am gyfeiriad strategol ar gyfer data a digidol a darparu’r wybodaeth sydd ei hangen i werthuso’r modd y darperir gwasanaethau ac i gefnogi gwella a thrawsnewid gwasanaethau. 

Dechreuodd Helen ei gyrfa yn y GIG dros 30 mlynedd yn ôl gan ddechrau ym maes cyllid a symud i faes gwybodaeth iechyd yn 2000, gan ennill profiad helaeth ym maes gwybodeg mewn nifer o uwch rolau dros yr 20 mlynedd diwethaf. Mae gan Helen MSc mewn Gwybodeg Iechyd o Brifysgol Abertawe ac mae’n ymarferydd blaengar Ffederasiwn Gweithwyr Proffesiynol Gwybodeg, yn gymrawd Cymdeithas Cyfrifiaduron Prydain ac yn Athro Ymarfer ym Mhrifysgol Cymru Y Drindod Dewi Sant. 

Mae Helen yn teimlo’n angerddol am lywio’r defnydd o ddata a deallusrwydd i gefnogi gwelliant, trawsnewid gwasanaethau a chanlyniadau cleifion, cefnogi’r gwaith o ddatblygu’r strategaeth wybodaeth Gofal Iechyd sy’n Seiliedig ar Werth yng Nghymru.