Neidio i'r prif gynnwy
Hywel Jones

Cyfarwyddwr 

Uned Gyflawni Cyllid GIG Cymru

Amdanaf i

Cyfarwyddwr 

Hywel yw Cyfarwyddwr Uned Gyflawni Cyllid GIG Cymru, sef uned a sefydlwyd ym mis Ionawr 2018 fel swyddogaeth genedlaethol i arwain ar ddatblygu arferion gorau mewn rheoli ariannol, gwybodaeth ariannol strategol, Gofal Iechyd Sy’n Seiliedig ar Werth a gwelliant ariannol ar draws GIG Cymru. 

Wedi iddo raddio mewn seicoleg, ymunodd â’r GIG yn 2003 yn rhan o’r Cynllun Hyfforddi Rheoli Ariannol Cenedlaethol a chyn y rôl hon, mae wedi ymgymryd â nifer o uwch rolau ym Mwrdd Iechyd Prifysgol Caerdydd a’r Fro a Bwrdd Iechyd Prifysgol Aneurin Bevan. 

Ar hyn o bryd, Hywel yw Dirprwy Gadeirydd Academi Gyllid GIG Cymru, ac mae’n angerddol am ddatblygiad personol a phroffesiynol, gan sicrhau bod pobl a systemau yn cynyddu eu potensial i’r eithaf. Mae’n Gymro balch, yn orllewinwr yn ei galon, ac mae’n briod gyda dau o blant.