Cyfarwyddwr Technoleg, Digidol a Thrawsnewid
Llywodraeth Cymru
Cyfarwyddwr Technoleg, Digidol a Thrawsnewid
Mae Ifan Evans yn Gyfarwyddwr yng Ngrŵp Iechyd a Gwasanaethau Cymdeithasol Llywodraeth Cymru. Mae ganddo brofiad helaeth sy’n cynnwys polisi digidol a thechnoleg, ymgysylltu arloesi a diwydiant, strategaeth a thrawsnewid gofal iechyd sy’n seiliedig ar werth.
Mae’n arweinydd elfennau digidol ymateb Covid a chyn hynny roedd yn arweinydd parodrwydd iechyd a gofal cymdeithasol ar gyfer Brexit. Mae Ifan yn gweithio’n agos gydag arweinwyr y GIG a gofal cymdeithasol ledled Cymru, yn ogystal â gyda rhanddeiliaid allweddol eraill, i lywio mabwysiadu technoleg a newid strategol.
Mae’n eiriolwr cryf dros waith partneriaeth traws-sector a dros raglenni sy’n cysylltu gwell gwasanaethau iechyd a gofal â budd cymdeithasol ac economaidd ehangach yng Nghymru. Mae gan Ifan gefndir yn y sector preifat ac mae’n meddu ar raddau o Brifysgolion Rhydychen, Caerdydd ac Aberystwyth.