Neidio i'r prif gynnwy
Ifan Evans

Cyfarwyddwr Technoleg, Digidol a Thrawsnewid

Llywodraeth Cymru

Amdanaf i

Cyfarwyddwr Technoleg, Digidol a Thrawsnewid

Mae Ifan Evans yn Gyfarwyddwr yng Ngrŵp Iechyd a Gwasanaethau Cymdeithasol Llywodraeth Cymru.  Mae ganddo brofiad helaeth sy’n cynnwys polisi digidol a thechnoleg, ymgysylltu arloesi a diwydiant, strategaeth a thrawsnewid gofal iechyd sy’n seiliedig ar werth.   

Mae’n arweinydd elfennau digidol ymateb Covid a chyn hynny roedd yn arweinydd parodrwydd iechyd a gofal cymdeithasol ar gyfer Brexit.  Mae Ifan yn gweithio’n agos gydag arweinwyr y GIG a gofal cymdeithasol ledled Cymru, yn ogystal â gyda rhanddeiliaid allweddol eraill, i lywio mabwysiadu technoleg a newid strategol.   

Mae’n eiriolwr cryf dros waith partneriaeth traws-sector a dros raglenni sy’n cysylltu gwell gwasanaethau iechyd a gofal â budd cymdeithasol ac economaidd ehangach yng Nghymru. Mae gan Ifan gefndir yn y sector preifat ac mae’n meddu ar raddau o Brifysgolion Rhydychen, Caerdydd ac Aberystwyth.