Neidio i'r prif gynnwy
India Nicholas

Swyddog Cymorth Prosiect mewn Therapïau Seicolegol

Bwrdd Iechyd Prifysgol Bae Abertawe

Amdanaf i

Swyddog Cymorth Prosiect mewn Therapïau Seicolegol

Rwyf wedi bod yn gweithio i’r GIG am bron i bedair blynedd. Ymunais â’r sefydliad drwy’r Academi Prentis fel prentis rhaglen gwerthoedd. Ar hyn o bryd, mae gen i swydd Swyddog Cymorth Prosiect mewn Therapïau Seicolegol. Yma, rwyf wedi bod yn gweithio ar ddatblygu’r modd y casglwn a choladwn fesurau canlyniadau a fydd yn ein helpu i ddeall rhagor am ein gwasanaeth a’r ymyriadau rydym yn eu cynnig. Rwyf wedi bod yn gweithio gyda Gwelliant Cymru i ddatblygu platfform ar gyfer y mesur canlyniad CORE.