Neidio i'r prif gynnwy
Paul Mears

Prif Weithredwr      

Bwrdd Iechyd Prifysgol Cwm Taf Morgannwg

Amdanaf i

Prif Weithredwr      

Mae Paul Mears wedi bod yn Brif Weithredwr Bwrdd Iechyd Cwm Taf Morgannwg ers mis Medi 2020. 

Cyn ei rôl, treuliodd Paul ddwy flynedd fel ymgynghorydd rheoli annibynnol yn cynghori nifer o gleientiaid yn y sector gofal iechyd cyhoeddus a phreifat, yn ogystal â busnesau gofal iechyd digidol.  Roedd hyn yn cynnwys gweithio fel Uwch Ymgynghorydd i McKinsey & Company.  Yn flaenorol, roedd Paul yn Brif Weithredwr Ysbyty Rhanbarth Yeovil yng Ngwlad yr Haf, lle sefydlodd y rhaglen Symphony, a ddyluniwyd i integreiddio gofal ar draws gofal sylfaenol, yr ysbyty acíwt a gwasanaethau cymunedol.  Roedd Paul yn hanfodol wrth sefydlu Symphony Healthcare Services, sef cwmni cynorthwyol gofal sylfaenol Ysbyty Rhanbarth Yeovil, sy’n gweithredu 12 practis yn Ne Gwlad yr Haf ac mae ganddo restr practis o 90K o gleifion.    Dechreuodd Paul ei yrfa yn y GIG yn Torbay, lle roedd yn rhan ganolog o sefydlu Torbay Care Trust ac o arwain busnes gweithredol un o’r sefydliadau iechyd a gofal cymdeithasol integredig cyntaf yn Lloegr, yn ogystal â gweithio fel Prif Swyddog Gweithredu yn Ysbyty Torbay.   

Mae gan Paul ddiddordeb mewn gofal integredig a gofal iechyd ac arloesi digidol, sydd wedi golygu ei fod wedi siarad mewn ystod o ddigwyddiadau cenedlaethol a rhyngwladol ar y materion hyn.  Mae ei waith o ddatblygu modelau gofal integredig wedi’i gynnwys yn Financial Times, The Economist a Health Service Journal.