Neidio i'r prif gynnwy
Rachael Powell

Dirprwy Gyfarwyddwr

Iechyd a Gofal Digidol Cymru

Amdanaf i

Dirprwy Gyfarwyddwr

Ar ôl graddio o Fanceinion, ymunodd Rachel â Chynllun Rheoli Ariannol i Raddedigion y GIG a buodd hi’n gweithi i sefydliadau’r GIG ar hyd Gogledd-ddwyrain Lloegr, gan gynnwys: Gateshead Primary Care Trust, City Hospitals Sunderland Foundation Trust, Contractor Services Agency, North East Ambulance Service a North East Audit Consortium. 

Symudodd Rachel i Gymru yn 2006, a buodd hi’n rheoli’r agenda llywodraethu gwybodaeth yn Ymddiriedolaeth GIG Abertawe.  Arweiniodd hyn at rôl yn y tîm llywodraethu gwybodaeth yn Hysbysu Gofal Iechyd, gan roi cyngor ar faterion llywodraethu gwybodaeth ar gyfer prosiectau yn cynnwys y Cofnod Iechyd Unigol, gan gynorthwyo gyda datblygiad Llawlyfr Caldicott (gydag adnoddau asesu a hyfforddi cysylltiedig), a sefydlu Cytundeb Cymru ar gyfer Rhannu Gwybodaeth Bersonol ar ran Llywodraeth Cymru.  Ar yr un adeg, cwblhaodd MSc mewn Hysbysu Gofal Iechyd ym Mhrifysgol Abertawe. 

Yna cymerodd Rachael rolau arwain o fewn Bwrdd Iechyd Abertawe Bro Morgannwg mewn Profiad Cleifion, Ymchwiliadau a Hawliadau a Chynllunio a Chomisiynu Strategol.  Mae wedi trefnu nifer o ddigwyddiadau cynllunio strategol ar raddfa fawr ar ran y Bwrdd Iechyd, yn nodweddiadol yn cynnwys dros 300 o gynrychiolwyr.  Mae hi hefyd wedi rheoli ac arwain amrywiol raglenni gwaith, gan gynnwys gweithredu fel arweinydd strategol ar gyfer cyflyrau tymor hir, gofal wedi'i gynllunio a phlant a phobl ifanc a rheoli'r rhaglenni comisiynu sy'n gysylltiedig â'r rhain.  Fel arweinydd strategol, arweiniodd a gweithiodd Rachel gyda llawer o ddisgyblaethau gan gynnwys cydweithwyr o’r adran gyllid, gwybodeg, ymchwil a datblygu a phroffesiynau clinigol amrywiol i gydlynu’r agenda comisiynu gwybodaeth ar ran y rhaglen gomisiynu. 

Ymunodd Rachel ag Ymddiriedolaeth Gwasanaeth Ambiwlans Cymru ym mis Mawrth 2018 fel Cyfarwyddwr Cynorthwyol Ymchwil, Archwilio a Gwella Gwasanaeth.  Ymhlith y cyflawniadau allweddol, ynghyd â dyletswyddau rheoli gweithredol yn Ymddiriedolaeth Gwasanaeth Ambiwlans Cymru roedd: datblygu’r Strategaeth Glinigol, ‘Cyflawni Rhagoriaeth Glinigol yng Nghymru 2020-2025’; cefnogi datblygiad achos busnes yr Ymddiriedolaeth ar gyfer cofnod clinigol cleifion electronig (ePCR); sefydlu ac arwain Tîm Arweinyddiaeth y Cyfarwyddwyr Cynorthwyol (ADLT); cefnogi datblygiad Rhwydwaith Arloesi a Gwella’r Ymddiriedolaeth (WIIN) ac, yn fwy diweddar, cefnogi parhad busnes a chynllunio adferiad yr Ymddiriedolaeth. 

Mae Rachel yn ymuno â Gwasanaeth Gwybodeg GIG Cymru fel Dirprwy Gyfarwyddwr o Wybodaeth ar secondiad ym mis Medi 2020 

Mae hi’n byw yng Nghastell-nedd gyda’i gwr, eu mab a’u merched sy’n efeilliaid.