Neidio i'r prif gynnwy
Rachel Taylor

Rheolwr Gweithredol           

Rhwydwaith Trawma De Cymru (SWTN), GIG Cymru

Amdanaf i

Rheolwr Gweithredol           

Cymhwysodd Rachel fel nyrs gofrestredig yng Nghaerdydd ym 1996 a dechreuodd ei gyrfa yn yr uned gofal dwys yn Ysbyty Athrofaol Cymru (UHW), cyn treulio amser mewn ymchwil glinigol yng Nghaerdydd ac yn Birmingham.  Yna treuliodd Rachel 10 mlynedd yn gweithio yn yr Adran Achosion Brys yn Ysbyty Brenhinol Gwent, Casnewydd ac yna fel uwch nyrs yn Ysbyty Nevill Hall, y Fenni.   

Dros y 6 blynedd nesaf, bu Rachel yn gweithio mewn nifer o swyddi rheoli, gan arbenigo mewn rheolaeth weithredol a llif cleifion ym Myrddau Iechyd Aneurin Bevan a Chaerdydd a’r Fro cyn ymuno â'r SWTN yn 2020 fel y Rheolwr Gweithredol.  Ar hyn o bryd mae hi hefyd yn cefnogi rhaglen frechu COVID-19 ar gyfer GIG Cymru.