Neidio i'r prif gynnwy
Russell White

Dadansoddwr Gwybodaeth

Bwrdd Iechyd Prifysgol Bae Abertawe 

Amdanaf i

Dadansoddwr Gwybodaeth

Mae Russell wedi gweithio fel Dadansoddwr Gwybodaeth ym maes Gofal Iechyd am 12 mlynedd yn y GIG yng Nghymru, Lloegr a Gwlad Belg hefyd.  

Mae wedi gweithio yn y tîm Gofal Iechyd sy’n Seiliedig ar Werth yn BIP Bae Abertawe ers mis Awst 2020.  Mae gan ei swydd bedwar prif faes cyfrifoldeb: cefnogi staff clinigol mewn gwasanaethau gwahanol; cynnal systemau casglu PROM a ddefnyddir yn BIPBA; ysgrifennu cod SQL i ddadansoddi data a gasglwyd; a bod yn greadigol gyda’r data a ddadansoddwyd i lunio adroddiadau y gall pobl nad ydynt yn arbenigwyr ym maes technoleg. Defnyddio SQL a Power BI yn ddyddiol.  

Treuliodd Russell flynyddoedd yn gweithio gyda QlikView a QlikSense yn ei swyddi blaenorol. Mae Russell yn hannu o Seland Newydd yn wreiddiol, ac mae wedi bod yn Ewrop ers dros 20 mlynedd. Pan nad yw’n gweithio, fel rheol, bydd yn archwilio bryniau neu arfordir Cymru. Os yw’r ffiniau’n agored erbyn hyn, efallai y dewch o hyd iddo yn dod i adnabod tref, dinas neu wlad newydd, fel arfer yn chwilio am y bwyd a chwrw lleol gorau.