Neidio i'r prif gynnwy
Said Shadi

Cyfarwyddwr Cynorthwyol Gwybodeg Iechyd a Dadansoddeg

Gwerth mewn Iechyd, GIG Cymru

Amdanaf i

Cyfarwyddwr Cynorthwyol Gwybodeg Iechyd a Dadansoddeg

Mae Said Shadi wedi gweithio ym maes Technoleg Gwybodaeth/Digidol a Dadansoddeg ers dros 30 mlynedd. Bu ddeuddeg mlynedd yn y sectorau Bancio/Cyllid (Lloyds, RBS, Natwest ac Goldman Sachs) mewn amrywiaeth o rolau technegol ac ymgynghori.  Ymunodd â'r GIG yng Nghymru yn 2004 i sefydlu’n llwyddiannus y Gwasanaethau e-Fusnes y Tîm Canolog, er mwyn cyflawni'r strategaeth gwybodeg a dadansoddeg menter ddigidol ar gyfer y cymunedau Cyllid, Caffael, Cadwyn Gyflenwi ar draws yr holl Sefydliadau Iechyd yng Nghymru.   

Mae Said yn angerddol am dechnolegau digidol ac yn parhau i sicrhau ei fod yn cael y wybodaeth ddiweddaraf am y technolegau a'r tueddiadau diweddaraf.  Mae Said wedi graddio mewn Cyfrifiadura, enillodd MBA Gweithredol o Brifysgol Abertawe ac ar hyn o bryd mae'n cwblhau ei Ddoethuriaethau ym Mhrifysgol Caerdydd. Mae ei draethawd ymchwil ar Awtomeiddio Deallus a dyfodol gwaith Mae cymwysterau Said yn ymestyn ar draws sawl disgyblaeth, gan gynnwys: Arbenigwr ITIL, Ymarferydd mewn Rheoli Prosiectau, Rhaglenni a Risg a Lean/Six Sigma Black Belt. 

Fis Rhagfyr 2020, ymunodd Said Shadi â'r rhaglen Gwerth mewn Iechyd genedlaethol fel Cyfarwyddwr Cynorthwyol Gwybodeg Iechyd a Dadansoddeg. Mae Said yn gyfrifol am gyflwyno'r strategaeth ddigidol ar gyfer y rhaglen genedlaethol. Un agwedd ar hyn yw sicrhau bod galluogwyr yn ddigidol yn cyd-fynd â pholisïau cenedlaethol, er enghraifft Cymru Iachach a'r Fframwaith Clinigol Cenedlaethol, wrth sicrhau bod y rhain yn cael eu cyflawni mewn modd cyson a safonol ar draws Sefydliadau, i gefnogi'r agendâu lleol a chenedlaethol sy'n seiliedig ar werth.