Neidio i'r prif gynnwy
Sally Cox

Prif Arbenigwr (Gwybodaeth)

Iechyd a Gofal Digidol Cymru

Amdanaf i

Prif Arbenigwr (Gwybodaeth)

Mae Sally wedi gweithio ym maes gwybodaeth i’r GIG ers bron i 20 mlynedd, yn bennaf ym meysydd iechyd y boblogaeth, ystadegau a chysylltiad data. Mae Sally wedi gweithio ar lawer o brosiectau mewn nifer o sefydliadau gan gynnwys Atlas Amrywiaeth Cardiofasgwlar (2019), offeryn mapio rhyngweithiol Mapiau Iechyd Cymru ac yn fwy diweddar, ymateb gwybodaeth Coronafeirws ar gyfer Cleifion sydd wedi’u Gwarchod GIG Cymru.  

Ymunodd Sally â thîm Gofal Iechyd sy’n Seiliedig ar Werth ym mis Medi 2019 gan arwain tîm o ddadansoddwyr yn Iechyd a Gofal Digidol Cymru Ar hyn o bryd, mae’r tîm yn gweithio i hwyluso dadansoddi teithiau cleifion, a gaiff ei gyflawni trwy gysylltu setiau data gwahanol gan gynnwys PROMs a data archwilio clinigol a sicrhau bod data ar gael drwy ddangosfyrddau canlyniad data sy’n galluogi defnyddwyr i ddeall y data sydd eu hangen i lywio gwelliant yn well.